Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn awyddus i weithio gyda grwpiau cymunedol a sefydliadau nid-er-elw fyddai â diddordeb mewn cofrestru i fod yn Ganolfannau Croeso y Gaeaf. Cyn cofrestru, byddwch yn effro i’r ffaith y dylai Canolfannau Croeso y Gaeaf fod mewn sefyllfa i allu cynnig mannau hygyrch i'r cyhoedd sy’n darparu gweithgareddau, diodydd, bwyd a phecynnau cadw’n gynnes mewn lleoliad yn y gymuned.
Mae ceisiadau am y cymorth ariannol sydd ar gael i Ganolfannau Croeso yn y Gaeaf bellach wedi'i oedi a does dm modd ystyried ceisiadau pellach. Mae croeso i chi gofrestru eich man cymunedol yn Ganolfan Croeso yn y Gaeaf. Bydd eich man yna'n cael ei gynnwys ar ein tudalen we.
Er mwyn sicrhau bod modd deall y ddarpariaeth a'r cymorth lleol sydd ar gael ac er mwyn i'r Cyngor gysylltu â'ch sefydliad yn uniongyrchol gydag unrhyw gynigion o gymorth ariannol, cwblhewch y ffurflen gofrestru gychwynnol isod.
Yn dilyn cofrestru, bydd cyfle i gyflwyno cais i Gronfa Caledi'r Gaeaf sy'n canolbwyntio ar ehangu amseroedd agor, gweithgareddau a darpariaeth bwyd, diodydd a phecynnau cadw’n gynnes Canolfannau Croeso y Gaeaf.
Bydd yr wybodaeth rydych chi'n ei darparu ar gael i’r cyhoedd ei gweld ar wefan y Cyngor felly nodwch gymaint o wybodaeth â phosibl er mwyn i drigolion gael gwybod pa gyfleusterau, gweithgareddau a chymorth y bydd modd iddyn nhw eu disgwyl wrth ymweld â'ch Canolfan Groeso y Gaeaf.
Oes gan eich sefydliad chi ddiddordeb mewn cofrestru i fod yn Ganolfan Groeso y Gaeaf?