Mae gyda fi dros 20 o flynyddoedd o brofiad o weithio ym maes Adnoddau Dynol mewn diwydiannau gwahanol, a hynny ym mhob agwedd ar Adnoddau Dynol. Mae'r rhain yn cynnwys; adeiladu swyddogaethau AD o'r dechrau, rheoli prosiectau cyfan, arwain ar raglenni ailgynllunio sefydliadau ac ailstrwythuro ar raddfa fawr, yn ogystal â hyfforddi, datblygu ac arwain carfanau proffesiynol.
Rydw i wedi gweithio gyda busnesau newydd eu sefydlu, BBaCh, yn ogystal â sefydliadau byd-eang mawr.
Rydw i hefyd wedi rhedeg fy musnes fy hun gan weithio gydag unigolion â phroblemau iechyd meddwl. Rydw i'n hypnotherapydd ac yn ymarferydd Rhaglennu Niwro-Ieithyddol (NLP), ac wrthi'n astudio Therapi Ymddygiad Gwybyddol. A minnau'n gyn-sylfaenydd ac yn berchennog busnes, rydw i'n deall y broses o redeg busnes. Rydw i'n deall pa mor anodd mae hi, ond hefyd sut i weld y pethau sy'n rhwystro llwyddiant a thwf yn her mae modd i chi ei goresgyn. Rydw i wedi defnyddio fy ngwybodaeth a dealltwriaeth o bobl yn fy ngwaith gyda busnesau ac rydw i wastad yn neilltuo amser i wrando ar bobl.
Rydw i'n frwdfrydig am helpu unigolion a busnesau i werthfawrogi eu llawn botensial. Bydd bod yn rhan o Garfan Cadw'n Iach yn y Gwaith yn fy ngalluogi i gyfrannu at wneud gwahaniaeth go iawn ar gyfer unigolion a busnesau yn RhCT
Sgiliau neu Arbenigedd
Aelod o Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, Hyfforddwr achrededig â chymorth ceffylau Leadchange
Arbenigwr mewn pobl, cyfraith cyflogaeth, hyfforddi, arweinyddiaeth, iechyd a lles, rheoli prosiectau