Nod rhaglen Cadw'n Iach yn y Gwaith yw cefnogi iechyd a lles staff sy'n cael eu cyflogi gan fusnesau bach a chanolig yn Rhondda Cynon Taf. Mae gyda ni garfan o arbenigwyr Adnoddau Dynol, ffisiotherapyddion, nyrsys iechyd galwedigaethol a rhagor i helpu i gefnogi eich busnes a'ch staff mewn perthynas ag amrywiaeth o faterion lles.
Mae ein gwasanaethau yn rhad ac am ddim ac ar gael i fusnesau yn Rhondda Cynon Taf sydd â llai na 250 o weithwyr (yn amodol ar feini prawf cymhwysedd).
Rydyn ni'n cynnig:
- Cymorth Adnoddau Dynol arbenigol i ddatblygu neu wella polisïau lles, cydraddoldeb ac amrywiaeth.
- Cyngor Adnoddau Dynol ac iechyd galwedigaethol o ran rheoli achosion iechyd cymhleth yn y gwaith.
- Hyfforddiant ar reoli iechyd meddwl a lles yn y gwaith.
- Rhaglenni cadw golwg ar iechyd, e.e. gwyliadwriaeth awdiometreg a sbirometreg.
- Mynediad at nyrsys iechyd galwedigaethol i gael cyngor ar sut mae gwaith yn effeithio ar iechyd ac i'r gwrthwyneb.
- Mynediad at ffisiotherapyddion i gael cyngor a thriniaeth mewn perthynas ag ystod o gyflyrau sy'n effeithio ar y cyhyrau a'r esgyrn.
Gwasanaeth cynghori a hyfforddi, cymorth therapiwtig neu hyfforddiant wyneb i wyneb i unigolion sy'n profi amrywiaeth o gyflyrau iechyd meddwl.
Helpwch ni i wella - peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol neu ariannol, e.e. eich Rhif Yswiriant Gwladol neu fanylion cerdyn credyd.
Rhowch reswm ac unrhyw awgrymiadau o ran ein cynorthwyo i wella y dudalen we.