Mae'r dudalen we yma'n cynnwys gwybodaeth am y broses adfer barhaus a sylweddol yn dilyn tirlithriad Tylorstown, a achoswyd yn sgil tywydd garw yn ystod Storm Dennis.

Mae'r dudalen hefyd yn rhannu manylion am y bwriad ar gyfer dyfodol y safle, sef i'w datblygu'n rhan o Lwybr Teithio Llesol ehangach i'r gymuned - gan ddarparu llwybr pwrpasol i gerddwyr a beiciwyr rhwng y Maerdy a Pont-y-gwaith.

Ar 16 Chwefror, 2020, bu tirlithriad ar ochr bryn Llanwynno yn Nhylorstown, pan gafodd Rhondda Cynon Taf ei daro gan dair storm o fewn cyfnod byr. Achoswyd y tirlithriad gan Storm Dennis - storm na welwyd ei thebyg ers 200 mlynedd. Cofnodwyd bod y nifer fwyaf o law wedi syrthio yn y Maerdy, sydd ben uchaf Cwm Rhondda Fach, i gymharu â'r un man arall yng Nghymru. Mae'r safle yn domen Categori D ac roedd yn cael ei archwilio bob tri mis yn erbyn meini prawf monitro cyn y storm, ac rydyn ni'n archwilio'r domen yn amlach ers hynny.

tylorstown FEB 2020

Achosodd y tirlithriad rwystr ar ddyffryn yr afon, torrodd garthffos, cuddiodd bibell ddŵr strategol gyda sawl metr o rwbel a llwybr troed a llwybr beicio. Mae'r ardal ar gau o hyd i'r cyhoedd er diogelwch.

Ers hynny, mae'r Cyngor wedi llunio cynllun adfer pedwar cam. Cafodd Cam Un ei gwblhau'n fesur brys yn ystod yr wythnosau yn dilyn y tirlithriad. Mae'r rhaglen waith ehangach wedi'i chrynhoi isod:

  • Cam Un- Draenio ar frys a chlirio llystyfiant (wedi'i gwblhau).
  • Cam Dau- Atgyweirio erydiad glan yr afon (dechreuodd y gwaith ar ddiwedd Mehefin 2020, i'w gwblhau ddiwedd hydref 2020).
  • Cam Tri- Symud deunydd i safleoedd derbyn ac ailagor llwybrau cerdded dros dro (dechreuodd y gwaith ar ddiwedd Mehefin 2020, i'w gwblhau ddiwedd hydref 2020).
  • Cam Pedwar - Adfer y domen bresennol ar y llethr a gwella'r llwybr i'r gymuned a pharc glan yr afon (i'w wneud yn 2021).
  • Llwybrau beicio a safleoedd derbyn - Gwaith yn ystod 2021/22 i wella strwythurau ar hyd y Llwybr i'r Gymuned arfaethedig. Bydd arwyneb newydd ar y llwybr a bydd y gwaith i'r safleoedd derbyn wedi'i gwblhau.

Camau Dau a Thri

Ar 10 Mehefin 2020, fe wnaeth y Cyngor gyhoeddiad yn amlinellu ei fwriad i gychwyn ail a thrydydd cam y gwaith - gan ddechrau erbyn diwedd mis Mehefin a dod i ben yn ddiweddarach eleni, yn unol â chyfyngiadau Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch gweithio yn yr afon o ddiwedd Hydref ymlaen. Cadarnhaodd y cyhoeddiad bod y Cyngor hefyd yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan ynghylch yr opsiynau cyllido i dalu costau Camau Dau a Thri, sef oddeutu £2.5 miliwn yn ôl yr amcangyfrifon.

Fe wnaeth y Cyngor benderfyniad Dirprwyedig Brys  ar 11 Mehefin 2020, i symud ymlaen â'r gwaith ac i benodi contractwr. O fewn y penderfyniad, cafodd ei nodi bod y gwaith yma'n cael ei gychwyn ‘ar gyfrifoldeb yr Awdurdod Lleol’ yn absenoldeb cadarnhad am gyllid, ond mae disgwyliad cadarn y bydd cymorth gan y llywodraeth yn cael ei ddarparu i'r Cyngor i gyflawni'r cynllun hanfodol yma. Byddwn ni'n gwneud cais am ganiatâd cynllunio o ran y gwaith yma cyn gynted ag sy'n bosibl.

Dechreuodd y gwaith i gwblhau Cam Dau a Cham Tri  ddydd Llun, 29 Mehefin, 2020 - wedi i'r Cyngor benodi cwmni Walters yn gontractwr sy'n gyfrifol am gyflawni'r cynllun. Mae Walters, a fu'n gyfrifol am waith Cam Un hefyd, yn gontractwr lleol profiadol sydd wedi bod yn rhan o gynlluniau tomenni tebyg yn y gorffennol. Bydd y gwaith cychwynnol yng Nghamau Dau a Thri yn cynnwys paratoi'r safle, ymchwiliadau a gwaith clirio cyffredinol - gan arwain at y broses sylweddol o symud 60,000 tunnell o ddeunydd rwbel yn dilyn y tirlithriad.

Amharu ar y gymuned

Rydyn ni'n rhagweld y bydd cyn lleied o darfu ag sy'n bosibl ar y gymuned leol yn ystod Camau Dau a Thri yn sgil lleoliad y safle gwaith a'r safleoedd derbyn. Mae'r gwaith yn bell o'r briffordd felly fydd e ddim yn effeithio lawer ar ddefnyddwyr y ffordd. Mae'r llwybrau troed ar gau am gyfnod hirach i atal mynediad i’r cyhoedd tra bod gwaith trwm gan y contractwr yn cael ei gyflawni a rhaid i drigolion lleol gadw allan o fannau sydd wedi'u ffensio am resymau diogelwch. Mae ochr y mynydd yn dal i fod yn anniogel i'r cyhoedd.

Effaith ecolegol

O ran yr effaith ecolegol, cynhaliwyd nifer o arolygon gan ecolegwyr ymgynghorol ac ecolegydd y Cyngor a Chyfoeth Naturiol Cymru (mewn perthynas â chlirio isdyfiant a choed o'r safleoedd derbyn - ynghyd â'r effaith ar fflora a ffawna).

Mae'r swyddogion yma'n parhau i weithio gyda'i gilydd i geisio lleihau'r effaith ar yr amgylchedd lle bynnag fo hynny'n bosibl. Bydd ecolegwyr ar y safle yn helpu i oruchwylio'r gwaith o glirio'r safle. Mae'r safleoedd derbyn terfynol yn cael eu hystyried yn ofalus, gan ystyried sut y bydd hyn o fudd i ecoleg dyffryn yr afon.

Safleoedd derbyn

Cyngor Rhondda Cynon Taf sy'n berchen ar y ddau safle derbyn, ac maen nhw i'r gogledd o safle'r tirlithriad, ger yr hen reilffordd. Roedd Safle Derbyn B (sydd agosaf at y safle tirlithriad) yn rhan o hen gilffyrdd y rheilffordd, ac roedd Safle derbyn A yn rhan o hen bwll glo. Mae'r lluniau o’r awyr isod yn dangos lleoliadau'r ddau safle.

Mae gosod deunydd y tomenni ar y safleoedd yma'n lleihau faint o ddeunydd sydd angen ei symud ar hyd y briffordd gyhoeddus yn sylweddol. Bydd y safleoedd derbyn hefyd yn sicrhau bod y gwaith ehangach yn hunangynhwysol - gan leihau ôl troed carbon y gwaith. Er enghraifft, nifer fach o gerbydau fydd ar y briffordd gyhoeddus. Fel arfer, byddai nifer o gerbydau yn achosi sŵn, dirgryniadau, llygredd aer, llwch a difrod i'r ffordd gerbydau. Mae wedi'i amcangyfrif y bydd y broses o symud 60,000 tunnell o ddeunydd yn gofyn am 6,000 o deithiau gan lorïau. Mae defnyddio'r safleoedd derbyn yn osgoi hyn.

Ymgynghoriad ar weledigaeth ar gyfer y dyfodol

Bydd y Cyngor yn rhoi gwybod i'r gymuned leol am ddefnydd arfaethedig o'r cynllun, i'w gyflawni yn y dyfodol. Bydd hefyd gyfle sylweddol i breswylwyr ddweud eu dweud ynghylch y defnydd terfynol o'r safle trwy broses ymgynghori yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn ystyried trawsnewid y lleoliad yn llwybr cerdded ar lan yr afon, yn debyg i'r safleoedd presennol ym Mharc Gwledig Barry Sidings a Pharc Glan yr Afon Aberpennar

Cam Pedwar

Mae gweledigaeth y Cyngor ar gyfer yr ardal ehangach yn y dyfodol yn cynnwys buddsoddiad o £10 miliwn i adfer y domen sy'n weddill ar ochr y bryn. Ar ôl cwblhau'r gwaith adfer, y gobaith yw cyflawni Llwybr Teithio Llesol i'r Gymuned ar gyfer cerddwyr a beicwyr rhwng y Maerdy a Phont-y-gwaith. Byddai'r llwybr yma'n 'pasio' trwy gynllun parc ar lan yr afon Tylorstown. Mae'r Cyngor yn rhagweld y bydd y gwaith adfer i'r domen sy'n weddill yn dechrau yn y gwanwyn neu’r haf, 2021. Bydd y Llwybr Teithio Llesol i'r Gymuned yn cael ei gynnal ar ôl cwblhau'r gwaith adfer, gan ddechrau yng Ngwanwyn 2022.

Bydd gofyn am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer y datblygiad ehangach. Yn yr un modd â chynlluniau parciau ar lan yr afon, bydd y gymuned yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ac yn cael cyfle i gymryd rhan mewn ymgynghoriad i lywio'r prosiect terfynol.

Llwybrau Seiclo

Bydd y gwaith arfaethedig yma'n cyd-fynd â'r gwaith gorffenedig cyffredinol o ganlyniad i Gamau Dau, Tri a Phedwar ac yn cyflawni cynlluniau sylweddol i atgyweirio neu ddisodli (ac yn y pen draw diogelu'r safle ar gyfer y dyfodol) nifer o strwythurau pontydd ar hyd y Llwybr Teithio Llesol newydd i'r Gymuned.

Mae'r ddogfen isod yn amlygu'r cynlluniau cychwynnol ar gyfer y Llwybr i'r Gymuned. Mae'r Llwybr i'r Gymuned wedi'i amlygu mewn pinc, gyda chysylltiadau arfaethedig â'r llwybr mewn glas a'r strwythurau sy'n cael eu hystyried i'w gwella hefyd wedi'u labelu.

DOGFEN PDF, CYNLLUN LLWYBR I'R GYMUNED

Bydd y Cyngor yn rhannu rhagor o wybodaeth am y cynlluniau unigol i ddiogelu pontydd ar hyd y llwybr yma maes o law.

Helpwch ni i wella - peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol neu ariannol, e.e. eich Rhif Yswiriant Gwladol neu fanylion cerdyn credyd.