Eleni, mae hi'n ben-blwydd Rasys Nos Galan yn 60 oed, hwythau'n achlysur byd-eang a ddechreuodd ar Nos Galan enbyd o oer ym 1958.

Ar frig y siartiau cerddoriaeth Saesneg oedd It’s Only Make Believe, gan Conway Twitty ac roedd y rhaglen i blant Blue Peter ar ein sgriniau am y tro cyntaf erioed.

Tua dechrau'r flwyddyn honno, cofnododd Donald Campbell record y byd ar gyfer cyflymdra ar y dŵr o 248.62 mya.  Cynhaliwyd Gemau'r Ymerodraeth yng Nghaerdydd.  Ac yn y gemau hynny, Bernard Baldwin oedd y swyddog gweinyddu, ysgrifennydd a swyddog y wasg.  Dyma ddyn a fyddai'n cynnal ei achlysur athletaidd ei hunan yn ei dref enedigol, Aberpennar, ryw 5 mis wedyn.

Flynyddoedd wedi hynny, cafodd Bernard MBE am ei wasanaeth i'r byd athletau.

Y diweddar Bernard Baldwin MBE gafodd y syniad a'r cysyniad campus o ddathlu bywyd yr athletwr chwedlonol o Gymro, Griffith Morgan (Guto Nyth Brân) mewn ffordd unigryw a fyddai'n dal dychymyg y byd.

Roedd Bernard yn ynnwr dan hyfforddiant yn Adran Awyr y Llynges, yn ystod yr Ail Ryfel Byd.  Wedi hynny, roedd e'n athro mewn ysgol yn Nhyndyrn, pentre yn Nyffryn Gwy, Ysgol Uwchradd Fodern Mill Street, Pontypridd, ac Ysgol Uwchradd Isaf Trefforest.

Yntau'n bencampwr rhedeg traws-gwlad yn ei rinwedd ei hunan, roedd Bernard yn dwlu ar hanes, y campau, a llên gwerin o Gymru.  Dyna sut daeth e ar draws chwedl Guto Nyth Brân, a fyddai ei fywyd byth yr un peth eto.

Derbyniodd Bernard ei MBE oddi wrth y Frenhines ym Mhalas Buckingham ym 1971 am ei wasanaethau at athletau Prydain. Yn ogystal â hynny, cafodd Rhyddfraint Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ei rhoi iddo yn 2014.

Cafodd Griffith Morgan ei eni yng Nghymoedd y De ym 1700.  Ar fferm Nyth Brân, ar gyrion y Porth ym Mhlwyf Llanwynno, oedd cartref y teulu.

Mae sawl chwedl am y rhedwr rhyfeddol yma – dyn a fyddai'n trechu ysgyfarnog a cheffyl mewn ras, dal aderyn wrth hedfan a rhedeg i Bontypridd, ac yn ôl i'r ffermdy cyn i'r tegell ferwi.

Roedd cariad Siân yn rhedeg siop y pentre, a dyna pam roedd pobl yn ei galw "Sian O’ Siop". Roedden nhw'n cynilo ar gyfer priodi pan dderbyniodd Guto yr her ym 1737 i redeg yn erbyn dyn o'r enw Prince, a oedd yn byw ym Medwas.

Dyn cyflyma ar y ddaear oedd Guto yn ôl y gred - dyn a allai redeg 50 llath mewn cwta 4 eiliad a 10 milltir mewn 45 munud. Ond, pa mor gyflym gallai e redeg 12 milltir?

Cafodd dyddiad ei drefnu ar gyfer y ras 12 milltir o Gasnewydd i Fedwas.  Guto enillodd honno yn hawdd, mewn amser o 53 munud – saith munud cyn pen yr awr!

Roedd pawb wrth ei fodd, Siân yn anad neb.  Rhedodd hi ato fe wrth iddo groesi'r llinell derfyn, gan ei daro ar ei gefn. Ond tynnodd hynny anadl olaf corff blinedig Guto, a chwympodd e yn ddifywyd wrth ei thraed.

Cafodd Guto ei roi i orwedd ger porth gorllewinol Eglwys Gwynno, Llanwonno.  Dyma eglwys o'r 12fed Ganrif ym Mhlwyf Llanwynno. Dros 200 o flynyddoedd yn ddiweddarach, byddai athro ysgol yn dod ar draws y chwedl, gan addo ei chadw hi'n fyw.

Cafodd Rasys Nos Galan eu cynnal ac roedd yr achlysur cyntaf ar strydoedd Aberpennar ddydd Mercher, 31 Rhagfyr, 1958.

Cafodd Rasys Nos Galan cyntaf a gafodd eu noddi gan y papur newydd Daily Mirror, eu cynnal ar Nos Galan 1958 gyda'r rhedwr marathonau ac enillydd medal Arian Gemau Olympaidd 1948 o Gymru, Tom Richards, yn Rhedwr Dirgel cyntaf y Rasys, i gynrychioli ysbryd Guto Nyth Brân.

Byddai nifer o enwau cyfarwydd byd y campau yn ei ddilyn ar hyd y blynyddoedd, gan fynd â ffagl Nos Galan o fedd Guto Nyth Brân, i lawr ochr y bryn, i ganol tref Aberpennar i ddechrau'r brif ras.

Mae Rhedwyr Dirgel blaenorol yn cynnwys Chris Coleman, Colin Jackson, Linford Christie, Alun Wyn Jones, Ron Jones, David Bedford, Nicole Cooke, Lillian Board, Ron Jones, Shane Williams, Nathan Cleverly a Colin Charvis.

Ond pwy fydd yn bencampwyr a Rhedwr Dirgel Nos Galan eleni?.... Amser a ddengys.

Stan Eldon, pencampwr traws-gwlad y byd, oedd pencampwr cyntaf erioed Rasys Nos Galan.  Cafodd rasys cyntaf i ferched eu sefydlu ym 1963, gyda Carol Mitchell y gyntaf i groesi'r llinell derfyn.

Bu Bernard yn trefnu Rasys Nos Galan am 36 o flynyddoedd, gan ddenu miloedd o athletwyr, gwylwyr, ac enwau adnabyddus – a chyfryngau'r byd – i dref Aberpennar. Bu farw ar 3 Ionawr 2017, yn 91 oed.

Rasys Nos Galan, hwythau'r un mor boblogaidd ag roedden nhw 60 o flynyddoedd yn ôl, ydy'r parti awyr agored mwyaf ar Nos Galan yn Rhondda Cynon Taf bob blwyddyn.

Nid yn unig bydd miloedd yn dod i gystadlu ac i wylio bob blwyddyn, ond mae'r Rasys hefyd yn coffáu bywyd Guto Nyth Brân, gan gadw'r chwedl yn fyw.

Dywedodd y diweddar Bernard Baldwin MBE ryw dro: “Bydd Guto Nyth Brân yn gorwedd yn Eglwys Sant Gwynno, ym Mhlwyf Llanwynno, am byth.  Yno, am byth bythoedd y bydd chwa'r gwynt a galwadau bywyd gwyllt yn canu galargerdd brudd y rhedwr gorau erioed.”

Fel roedd bwriad Bernard flynyddoedd lawer yn ôl, chaiff Guto mo'i anghofio byth, a bydd Rasys Nos Galan yn parhau er cof am y ddau ohonyn nhw.

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 28th Rhagfyr 2018

Helpwch ni i wella - peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol neu ariannol, e.e. eich Rhif Yswiriant Gwladol neu fanylion cerdyn credyd.