fly tipping court

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi erlyn yn llwyddiannus dau ddyn lleol a oedd wedi gadael llawer iawn o wastraff masnachol a gwastraff y cartref yn anghyfreithlon, a hynny'n rhan o un o achosion mwyaf y Fwrdeistref Sirol erioed.

Cafodd Ronnie Junior Jones, 29 oed, o Stryd Maxwell, Glynrhedynog, a Luke Samuel Davies, 27 oed, o Heol Brithweunydd, Trealaw, eu dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener, 12 Ebrill.

Cafodd Jones a Davies ddedfryd o garchar am 12 mis yr un gan y barnwr, wedi’i gohirio am 18 mis. Rhaid i’r ddau ohonyn nhw wneud 180 o oriau o waith heb dâl sy’n berthnasol i’r amgylchedd, e.e. codi sbwriel, yn ogystal â thalu’r gost o £500 am glirio’r gwastraff.

Yn dilyn dedfrydu'r ddau, dywedodd Cyngor Rhondda Cynon Taf fod gadael gwastraff anghyfreithlon yn ddiangen, yn difetha'r amgylchedd ac yn costio hyd at £1 miliwn y flwyddyn i'r Awdurdod Lleol.

Plediodd Davies yn euog i adael 36 o fagiau gwastraff du, 14 o fagiau ailgylchu, a phedwar bag siopa ar dir ger Heol Tonyrefail, i'r de o Bontypridd. Roedd pob un yn cynnwys gwastraff masnachol a pheth gwastraff y cartref.

Plediodd Jones yn euog i adael gwastraff y cartref cyffredinol mewn coedwig ger Y Graig-wen, Pontypridd.

Hefyd, plediodd y ddau ddyn yn euog i gyhuddiadau ar y cyd o adael gwastraff masnachol a gwastraff y cartref ar yr un darn o dir coedwig.

Yn ogystal â hyn, plediodd Davies yn euog i wyth achos o fethu ag atal gwastraff dan ei reolaeth rhag dianc. Cafodd ddedfryd arall o garchar, wedi’i gohirio am 8 mis, a fydd yn rhedeg ar y cyd â’r ddedfryd wedi’i nodi uchod.

Wrth ymchwilio i'r achos, cafodd 150 o fagiau o wastraff masnachol a gwastraff y cartref eu canfod ar dir coedwig rhwng Y Graig-wen a Llanwynno. Plediodd y ddau ddyn yn euog i adael y gwastraff yn anghyfreithlon.

Dywedodd Cyngor Rhondda Cynon Taf, a ymchwiliodd i un o'i achosion mwyaf erioed o adael gwastraff yn anghyfreithlon, yn ogystal â dwyn yr erlyniad llwyddiannus ger bron y llys, fod y ddau droseddwr wedi twyllo trigolion lleol i gredu y bydden nhw'n cael gwared ar wastraff yr oedden nhw wedi'i gymryd, a hynny mewn ffordd gyfreithiol.

Roedd Jones a Davies yn gweithredu busnes casglu gwastraff a sgrap anghyfreithlon, gan hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol a chodi hyd at £350 i gael gwared ar y gwastraff, gan awgrymu bod cyfran fawr o'r taliad yma oherwydd 'costau cael gwared ar y gwastraff’. Ond yn hytrach, aethon nhw i ardaloedd anghysbell yn Rhondda Cynon Taf i gael gwared ar y gwastraff yn anghyfreithlon.

Meddai Nigel Wheeler, Cyfarwyddwr Cyfadran – Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen Cyngor Rhondda Cynon Taf : “Mae'r hyn a ddigwyddodd heddiw yn profi na fydd y Cyngor yn goddef unrhyw dipio sbwriel, ac yn rhoi gwybod i bobl bod niweidio'r amgylchedd fel hyn yn gwbl ddiangen.

"Serch hynny, rydyn ni'n credu y dylai'r sawl sy'n gyfrifol am y math yma o ymddygiad, sy'n niweidio ein hamgylchedd hardd, wynebu'r gosb uchaf bosibl am eu troseddau - gan gynnwys cyfnod dan glo.

“Rydyn ni'n cael gwybod am adael gwastraff yn anghyfreithlon ar draws ein Bwrdeistref Sirol yn rheolaidd, ond mae'r achos llys yma yn dangos ein bod ni ddim yn ofni cymryd camau i ddileu'r broblem.

“Mae gadael gwastraff yn anghyfreithlon yn difetha ein hamgylchedd ac mae'n costio llawer i ymchwilio i'r achos a chlirio'r gwastraff. Mae'r ymchwiliad yma ei hun wedi costio dros £4,500 i'r Awdurdod Lleol.

“Mae cael gwared ar wastraff sydd wedi'i adael yn anghyfreithlon yn costio tua £1 miliwn bob blwyddyn i Gyngor Rhondda Cynon Taf. Byddai modd i ni fuddsoddi'r arian yma yng ngwasanaethau eraill y Cyngor yn ystod y cyfnod anodd yma.

“Mae'r Cyngor yn casglu gwastraff ailgylchu o ymyl y ffordd yn wythnosol, yn parhau i gasglu bagiau du ac mae Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned ar gael ar draws Rhondda Cynon Taf, lle mae modd i drigolion fynd â'u heitemau yn rhad ac am ddim.

"Mae modd trefnu casglu eitemau swmpus hefyd, felly does dim esgus o gwbl dros adael gwastraff yn anghyfreithlon."

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 12th Ebrill 2019

Helpwch ni i wella - peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol neu ariannol, e.e. eich Rhif Yswiriant Gwladol neu fanylion cerdyn credyd.