Mae trefniadau munud olaf wrthi'n cael eu gwneud ar gyfer un o nosweithau mwyaf cyffrous y flwyddyn, wrth i Rasys Ffordd Nos Galan 2019 agosáu.
Mae'r trefnwyr wedi trefnu'r llwybr (dim newid ers y llynedd!) ac fe gafodd rhifau rasio'r cystadleuwyr – hen ac ifanc – eu hanfon trwy'r post ar 5 Rhagfyr.
Mae'r Rhedwr/Rhedwyr Dirgel wedi cadarnhau y byddan nhw'n bresennol, mae cynlluniau ar gyfer y ffair a'r tân gwyllt yn eu lle ac mae croeso i bawb ymweld â chanol tref Aberpennar ar gyfer Nos Galan unigryw iawn!
Dewch i gwrdd â'r Rhedwr/Rhedwyr Dirgel enwog wrth iddyn nhw gyrraedd y dref gyda ffagl eiconig Nos Galan, bloeddiwch i gefnogi'r rhedwyr ifanc a'r sawl sy'n rhedeg am hwyl, dewiswch eich hoff wisg ffansi a gwyliwch rai o redwyr gorau'r ardal yn cystadlu yn y rasys arbennigol.
Diolch i ysbryd cymunedol unigryw Aberpennar, mae'n siwr y bydd Nos Galan 2019 yr un mor boblogaidd a chofiadwy â phob un o'r 60 o achlysuron Rasys Ffordd sydd wedi'i rhagflaenu!
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Cadeirydd Pwyllgor Nos Galan ac Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth: "Mae Nos Galan yn hoelio sylw ac edmygedd y byd chwaraeon ledled y DU, a thu hwnt, oherwydd ei fod yn achlysur mor unigryw.
"Rydyn ni'n gweithio'n galed bob blwyddyn i gynnal achlysur chwaraeon sy'n apelio cymaint i blant, teuluoedd a rhedwyr hwyl ag y mae ar gyfer athletwyr o'r radd flaenaf, sy'n cystadlu yn Nos Galan yn rhan o'u hyfforddiant proffesiynol.
"Gydag awyrgylch bendigedig, tân gwyllt a ffair a'r cyfle i weld y Rhedwr neu'r Rhedwyr Dirgel enwog yn lansio'r ras, mae'n noson allan wych.
"Mae'r achlysur bellach yn dathlu 61 o flynyddoedd, ac mae'r rheiny ohonon ni sy'n falch o fod yn rhan o drefnu Rasys Ffordd Nos Galan yn parhau i fod wedi ymrwymo i nod gwreiddiol yr achlysur – cadw chwedl Guto Nyth Brân yn fyw.
"Wrth i ni barhau â Rasys Ffordd Nos Galan er cof am ei sylfaenydd, y diweddar Bernard Baldwin MBE, rydyn ni'n gwahodd pobl o bob oed i ymuno â ni yn Aberpennar ar Nos Galan am noson fythgofiadwy.
“Hoffwn i hefyd ddiolch i Prichard's, Trivallis ac Amgen Cymru sef noddwyr ein achlysur - pob busnes a chyflogwr lleol y mae eu cefnogaeth yn caniatáu inni barhau i gynnal yr achlysur anhygoel yma a dod â'n cymunedau ynghyd.
“Mae Dwr Cymru ac Aldi hefyd wedi'n cefnogi ni unwaith eto eleni ac, ar gyfer Nos Galan 2019, hoffen ni ddiolch i Walters Sisk Joint Venture am noddi’r tân gwyllt.
“WWSJV yw contractwyr Cynllun Ffordd Gyswlt ar draws y Cwm ac, fel diolch i breswylwyr am eu cydweithrediad a'u cefnogaeth yn ystod y cynllun adeiladu enfawr, penderfynon nhw roi yn ôl trwy noddi'r tân gwyllt godidog a fydd yn goleuo'r awyr yn Aberpennar. "
Nodiadau:
Wedi ei bostio ar Dydd Llun 23rd Rhagfyr 2019