Unwaith eto'r Nadolig yma, mae ein busnesau a'n trigolion lleol wedi gwneud eu gorau glas i wneud y Nadolig yn adeg arbennig i filoedd o bobl ifainc.
Diolch i haelioni anhygoel pobl Rhondda Cynon Taf a thu hwnt, bydd plant lleol sy'n llai ffodus na'r rhelyw yn agor bron i 4,500 o anrhegion sydd wedi cael eu rhoi'r Nadolig yma.
Mae'r holl roddion wedi'u rhoi gan drigolion a busnesau lleol caredig, gyda phawb yn dangos eu hysbryd cymunedol dros yr ŵyl eleni.
Mae'r holl anrhegion cafodd eu rhoi wedi'u casglu gan staff y Cyngor a byddan nhw'n cael eu dosbarthu gan gynorthwywyr Siôn Corn i blant sydd wedi'u nodi gan y Cyngor fel plant sy'n debygol o fod heb anrhegion dros yr ŵyl, yn barod i'w hagor ar ddiwrnod y Nadolig.
Yn ogystal â channoedd o unigolion, fe drefnodd busnesau lleol fannau casglu, gan annog eu staff i ddod ag anrheg i'r gwaith.
Meddai'r Cynghorydd Christina Leyshon, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar Faterion Plant a Phobl Ifainc: “Unwaith eto, rydyn ni wedi derbyn ymateb aruthrol i Apêl Siôn Corn flynyddol y Cyngor ac mae mawr ddiolch i’r cyhoedd am eu haelioni a’u cefnogaeth.
“Mae pobl Rhondda Cynon Taf wedi dangos unwaith eto eu bod ymhlith y bobl fwyaf hael yng Nghymru.
"Mae Apêl Siôn Corn wedi datblygu'n draddodiad poblogaidd a llwyddiannus yn Rhondda Cynon Taf ers blynyddoedd bellach, ac mae nifer o blant llai ffodus wedi derbyn anrhegion.
“Dyma ddiolch o waelod calon i bawb am feddwl am eraill ar yr adeg arbennig yma o’r flwyddyn. Hoffwn i hefyd achub ar y cyfle i ddymuno Nadolig Llawen i bob un ohonoch."
Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 20th Rhagfyr 2019