mount town

Mae cynlluniau i ail-ddatblygu canol tref Aberpennar, sy'n cefnogi cyfleoedd a chynlluniau newydd cyffrous yn yr ardal, wedi cael eu cymeradwyo gan y Cabinet. 

Mae'r cynigion yn cynnwys trawsnewid Sgwâr Rhos ar Stryd Rhydychen, sy'n cael ei alw'n Sgwâr Guto yn lleol, er mwyn creu cyfleusterau parcio agosach at ganol y dref gan wella mynediad i ymwelwyr a siopwyr. 

Sgwâr Rhos yw canolbwynt canol y dref ac mae ganddo ddelw efydd o'r rhedwr enwog o Gymro, Guto Nyth Brân, â ysbrydolodd y Rasys Nos Galan byd-enwog. 

Mae mynediad uniongyrchol i'r dref o'r ardal yma o'r ddau brif faes parcio a'r orsaf reilffordd. Mae marchnad awyr-agored wythnosol y dref yn cael ei chynnal yma a dyma leoliad toiledau cyhoeddus y dref. 

Bydd gwell cyfleusterau parcio yn gwella mynediad i ganol y dref i siopwyr ac ymwelwyr. 

Nod fframwaith arfaethedig canol tref Aberpennar yw dod â chyfres o brosiectau buddsoddi at ei gilydd er mwyn gwella mynediad i ganol y dref ac adlinio gwasanaethau allweddol ar gyfer pobl leol. Mae'r rhain yn cynnwys cyfleoedd cyffrous sy'n cael eu cyflwyno drwy Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Thasglu'r Cymoedd. 

Mae hyn yn cynnwys buddsoddiad sylweddol mewn trafnidiaeth gyhoeddus, er enghraifft gwella'r nifer o drenau o orsaf reilffordd Aberpennar, sydd yng nghanol y dref, o ddau yr awr i bedwar yr awr. 

Dyma gynlluniau allweddol eraill sy'n cael eu cynnwys yn fframwaith adfywio canol tref Aberpennar a fydd yn cael eu trafod gan y Cabinet: 

  • Datblygu Hwb Cymunedol, fydd yn dod ag ystod o wasanaethau cymunedol ynghyd mewn adeilad sydd mewn lleoliad delfrydol i wasanaethu pobl yr ardal. 
  • Mae'r Cynllun Grant Cynnal Canol Trefi yn rhoi cefnogaeth ariannol i fasnachwyr a pherchnogion eiddo (yn cynnwys eiddo gwag) er mwyn eu galluogi i wneud mân welliannau a gwaith cynnal a chadw, ynghyd â gwelliannau i flaenau eiddo yng nghanol y dref. 
  • Cynlluniau i ddatblygu  Tai Gofal Ychwanegol ar gyfer Pobl Hŷn a Phobl sy'n Agored i Niwed yn yr ardal, gan ddarparu llety newydd sy'n hyblyg a fforddiadwy. 
  • Y Cynllun Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm yn Aberpennar. Mae'r cynllun yma, sydd werth miliynau o bunnoedd, yn gwella mynediad a chysylltedd mewn ardal lle mae natur gyfyngedig y cysylltiadau ar draws y cwm yn achosi tagfeydd sylweddol ar adegau prysur ar hyn o bryd. 
  • Datblygu Cyfleuster Gofal Sylfaenol Integredig, fydd yn darparu cyfleusterau gofal iechyd o'r safon uchaf yng nghanol y dref er budd i'r gymuned ehangach. 

Er mwyn hwyluso'r cynigion ar gyfer Sgwâr Rhos, mae'r Cabinet wedi cymeradwyo'r cynlluniau drafft ac wedi cytuno i gyflwyno cais cynllunio ar gyfer yr ailddatblygu arfaethedig. 

Meddai'r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu a Thai: "Mae'r rhain yn gynlluniau cyffrous ar gyfer canol tref Aberpennar. Dyma'r amser i fanteisio ar y cyfle yma i fuddsoddi ac adfywio yn Aberpennar. 

"Bydd ailddatblygu Sgwâr Rhos yn creu lle deniadol a chroesawgar i drigolion ac ymwelwyr, gan wella mynediad at yr ardal wrth ddathlu ein gorffennol. Bydd y cerflun o Guto Nyth Brân yn ganolbwynt i'r datblygiad. 

"Mae gan ganol y dref ran arbennig yng nghanol cymuned Aberpennar, tref sy'n llawn hanes. Nawr yw'r amser i sicrhau ei dyfodol hirdymor fel lle allweddol i fyw, gweithio ac ymweld â hi. 

"Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi adfywio canol trefi ac annog buddsoddiad sector preifat yn economi'r stryd fawr, fel sydd wedi'i nodi yn ei Gynllun Corfforaethol, Y Ffordd Ymlaen

"Er mwyn i ni gyflawni ein hymrwymiad ac i fynd i'r afael â'r heriau niferus y mae canol trefi yn eu hwynebu ar hyn o bryd yn y Fwrdeistref Sirol mae angen ymagwedd integredig, gydlynol a chyfannol at adfywio canol trefi sy'n manteisio ar sawl cyfle cyffrous sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd trwy Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. 

"Mae'r gwelliannau i'r gwasanaeth reilffordd yn Aberpennar yn newyddion gwych i gymudwyr. Dylai hefyd gynyddu'r nifer o ymwelwyr i'r dref gan fydd modd i ragor o bobl ymweld gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus."

Mae'r dref, a gafodd ei henw Saesneg ar ôl coeden onn enwog, yn gartref i un o'r clybiau rygbi hynaf yng Nghymru, a gafodd ei ffurfio ym 1875. Cafodd yr emyn Cymraeg enwog Calon Lan ei ysgrifennu gan Daniel James yn y 1890au pan oedd yn byw yn Aberpennar. Cafodd ei berfformio am y tro cyntaf yng Nghapel Bethania yn y dref

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 16th Ionawr 2019

Helpwch ni i wella - peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol neu ariannol, e.e. eich Rhif Yswiriant Gwladol neu fanylion cerdyn credyd.