Aberdare Park 150

Bydd Parc Aberdâr yn dathlu ei ben-blwydd yn 150 oed y mis yma gyda diwrnod Fictoraidd hwyl a fydd yn addas i'r holl deulu ac yn llawn hiraeth a chyffro.

Trefna Cyfeillion Parc Aberdâr yr achlysur a bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ei gefnogi. Caiff yr achlysuron eu cynllunio ym Mharc Aberdâr ac o’i gwmpas ddydd Sadwrn, 13 Gorffennaf.

Mae arwyddion a byrddau gwybodaeth newydd wedi cael eu dadorchuddio ym Mharc Aberdâr gan Roy Noble OBE sy’n ŵr enwog ar y teledu a’r radio. Hefyd mae Geoffrey Evans, sy’n awdur a hanesydd lleol, wedi lansio ei lyfr newydd, Aberdare Park: A Guide and Short History.

Yn ôl y Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o’r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Gwasanaethau Treftadaeth, a hefyd aelod dros ward Gorllewin Aberdâr a Llwydcoed: “Mae Parc Aberdâr yn drysor yng nghoron Aberdâr, sy’n cael ei alw’n lleol fel Brenhines y Cymoedd.

“Ers 150 blynedd, mae Parc Aberdâr wedi denu ymwelwyr ledled y byd drwy gydol y flwyddyn, a bydd yr achlysur yma’n dathlu’r Parc syfrdanol yma mae modd i ni i gyd fod yn falch ohono. Hefyd, hoffwn i dalu teyrnged i’r grŵp sef Cyfeillion Parc Aberdâr, sy’n rhoi o’i amser er mwyn diogelu treftadaeth y parc. Gwna staff y Cyngor ymdrech anhygoel er mwyn gofalu a chynnal y tiroedd fel bod modd i bawb eu mwynhau.

“Gobeithia i bydd pawb yn galw heibio i Barc Aberdâr ar 13 Gorffennaf a’n helpu ni i ddathlu mewn steil!”

Bydd Diwrnod Dathlu Aberdâr Parc, ddydd Sadwrn, 13 Gorffennaf, yn dechrau am 11am yn Sgwâr y Llyfrgell, canol tref Aberdâr. Bydd perfformiadau gan Fand Pres Llwydcoed, Côr Merched ‘Dare to Sing’, Côr Meibion Cwm-bach, Lleisiau Cwmdâr, Canwyr Clwb Rygbi Aberpennar ac unawdwyr.

Wedyn, bydd y dathliadau yn symud i Barc Aberdâr am 1-4pm, gydag atyniadau fel Gemau Traddodiadol i Blant gan gynnwys Ras Daten a Llwy, Rasys Teircoes, Ras Whilber, Ras Gyfnewid gyda Rhwystrau a Helfa Sborion.

Bydd ‘Perfformiadau yn y Parc’ gan Fand Pres Llwydcoed, Canwyr Phoenix, Lleisiau Cwmdâr, Côr Aberpennar ac unawdwyr. Hefyd bydd achlysur agor y parc 150 blynedd yn ôl yn cael ei ail-greu, gyda phobl yn gwisgo dillad Fictoraidd.

Bydd A J Aerobics yn cynnig sesiynau blasu gymnasteg a bydd Clwb Pêl-droed Llwydcoed yn cynnal gweithgareddau pêl-droed i blant. Hefyd bydd Arddangosiad Band Jas gyda’r Penywaun Paraders, sesiwn blasu bowls ar y lawnt fowlio gyda Chlwb Bowlio Aberdâr, gweithgareddau Clwb Tenis Aberdâr, arddangosfa gan Heddlu De Cymru a sioe hen feiciau modur. Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yna hefyd.

Bydd Te Prynhawn yn null Fictoraidd ar gael yn ardal y caffi.

Cafodd Parc Aberdâr, neu ‘Parc y Bobl’ fel cafodd ei alw yn y blynyddoedd cynnar, ei agor yn swyddogol ar 29 Gorffennaf, 1869. Fe oedd y parc cyhoeddus cyntaf yng Nghymru.

Roedd y tir, bron 50 erw, yn rhan o hen dir comin Hirwaun, a chafodd ei roi i wardeiniaid ac i oruchwylwyr eglwys blwyf Aberdâr ar gyfer ‘lles y bobl’.

Rhoddodd cadeirydd bwrdd iechyd lleol Aberdâr, Rees Hopkin Rhys, yr arian tuag at Barc Aberdâr. Er ei fod wedi mynd yn ddall 10 blynedd ynghynt, roedd e’n effro i’r buddion a’r prydferthwch y byddai parc cyhoeddus yn eu rhoi i'r gymuned leol. 

Cafodd y wal ar hyd terfyn y parc ei hadeiladu ym mis Mawrth 1863 a chafodd William Barron ei gomisiynu i gynllunio ac i greu tirwedd hudol Parc Aberdâr. Roedd e’n arddluniwr enwog, ac ymhlith ei brosiectau eraill roedd Tŷ Chatsworth, Gerddi Botanegol Brenhinol yr Alban a thiroedd Castell Elvaston yn Swydd Derby.

Hefyd dyluniodd e ar gyfer y gantores opera enwog Adelina Patti, yng Nghraig-y-nos, Sir Frycheiniog, a llawer mwy o safleoedd trefol ledled y DU.

Ar ddiwrnod agor swyddogol Parc Aberdâr yn haf 1869, roedd y rhan fwyaf o siopau lleol ar gau a chanodd clychau’r eglwys i ddathlu tra gorymdeithiodd mintai o bobl o ganol y dref, wedi’i harwain gan Fand Gwirfoddolwyr Lleol.

Cafodd cychod pleser eu cyflwyno ar y llyn yn 1887 pan roddodd trefnydd angladdau lleol 3 chwch rhwyfo o’r enwau Ruth, Naomi a Rebecca i'r Parc. Ailgyflwynodd y Cyngor gychod ychydig o flynyddoedd yn ôl a pharhân nhw yn atyniad poblogaidd i drigolion ac i ymwelwyr. Cafodd y baddonau cyhoeddus, neu Faddonau’r Coroni, eu hagor, ar Ddiwrnod Coroni 1902.

Yn 1910, prynodd y Cyngor lwyfan band cyfarwydd, sydd ym Mharc Aberdâr o hyd. Cafodd pafiliwn ar gyfer bwyd a diod, sy’n edrych dros y llyn, ei agor yr un flwyddyn.

Rhoddodd Syr William Thomas Lewis, arglwydd cyntaf Aberdâr, y ffynnon, sydd tu ôl i’r pafiliwn, i'r Parc. Cafodd y ffynnon ei dadorchuddio yn 1911 er mwyn coffáu Coroni Brenin Siôr V a Brenhines Mary, a ddaeth i Aberdâr a Pharc Aberdâr y flwyddyn ganlynol. Rhoddodd y Brenin a’r Frenhines ddau alarch i Barc Aberdâr ar yr adeg honno.

Dechreuodd Rasys Ffordd Parc Aberdâr enwog yn 1950 ac maen nhw mor boblogaidd heddiw ag erioed, gan ddenu miloedd o ymwelwyr.

Cynhaliodd Aberdâr yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1861, 1885, a 1956. Cafodd Eisteddfod 1956 ei chynnal yn y Parc ac mae Cerrig yr Orsedd yn atgof parhaus o’r achlysur hwnnw.

Daeth Taith Prydain i Rondda Cynon Taf yn 2016 a Pharc Aberdâr oedd man cychwyn swyddogol un rhan o’r ras. Roedd y seiclwyr Olympaidd Syr Bradley Wiggins, Mark Cavendish MBE ac Owain Doull MBE ymhlith y rheiny a gymerodd ran.

Trefna Cyfeillion Parc Aberdâr Ddathliadau Parc Aberdâr, gaiff eu cynnal ddydd Sadwrn, 13 Gorffennaf, a bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn eu cefnogi.

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 10th Gorffennaf 2019

Helpwch ni i wella - peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol neu ariannol, e.e. eich Rhif Yswiriant Gwladol neu fanylion cerdyn credyd.