Spanish Civil War Rededication-5

Mae cofeb i'r dynion o Gymru a fu farw yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen wedi ei hailgysegru yn un o atyniadau poblogaidd i dwristiaid y Cyngor, sef Taith Pyllau Glo Cymru. 

Eleni, mae'n 83 mlynedd ers dechrau Rhyfel Cartref Sbaen, ac mae seremoni arbennig wedi ei chynnal yn Nhaith Pyllau Glo Cymru i gofio'r gwirfoddolwyr o Gymru a aeth i ymladd dros Weriniaeth Sbaen rhwng 1936 a 1939 yn eu brwydr yn erbyn ffasgiaeth.

Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Maureen Webber: “Mae hi ond yn iawn ein bod ni'n cofio'r dynion o Gymru a aeth i ymladd ac a fu farw yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen yn Nhaith Pyllau Glo Cymru, gan fod llawer o'r dynion yma yn lowyr.

“Mae llawer o gofebion Rhyfel Cartref Sbaen ledled Cymru, gan gynnwys cofeb swyddogol Cymdeithas Brigadau Rhyngwladol (Cymru) yn Llyfrgell Glowyr De Cymru. Wedi'i gwneud o lo, llechi a dur Cymru, cafodd ei dadorchuddio gan Will Paynter yn 1976.

“Ond bydd y gofeb yma yn Rhondda Cynon Taf yn ein hatgoffa'n barhaol o'r dynion yna a roddodd eu bywydau dros achos roedden nhw'n credu ynddo. Nid oes modd eu hanghofio."

Denodd Rhyfel Cartref Sbaen wirfoddolwyr o bob oed o bob cwr o Ewrop, gan gynnwys dros 200 o bobl o Gymru. Cafodd 33 o Gymry eu lladd wrth ymladd yn rhan o'r Brigadau Rhyngwladol i achub Llywodraeth y Weriniaeth yn Sbaen. Fe gafodd ei hethol yn ddemocrataidd ond roedd ei methiant yn anochel.

Ffederasiwn Glowyr De Cymru a'r Blaid Gomiwnyddol oedd y tu ôl i'r ymateb yn bennaf, ac yn y pen draw fe gawson nhw gefnogaeth gan lawer o unigolion a sefydliadau, a oedd yn cynnwys y Blaid Lafur, y Rhyddfrydwyr, rhai o awduron Cymru, academyddion ac athrawon.

Un o'r cyntaf i gydnabod bygythiad ffasgiaeth oedd yr AS Llafur Aneurin Bevan, a ffurfiodd filisia gweithwyr a oedd yn gwrthwynebu ffasgiaeth mor gynnar â 1933, sef Grŵp Rhyddid Gweithwyr Tredegar.

Roedd y gwirfoddolwyr o Gymru a aeth i ymladd yn Sbaen yn cynrychioli'r grŵp diwydiannol rhanbarthol mwyaf ym Mataliwn Prydain y Brigadau Rhyngwladol. Roedden nhw yn bennaf o gymoedd y Rhondda, y Cynon a'r Taf, er bod yna hefyd wirfoddolwyr o feysydd glo'r Gogledd, trefi arfordirol y de ac ardaloedd gwledig.

Meddai Maer Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Linda De Vet, a aeth i'r seremoni ailgysegru: “Mae'n bwysig atgoffa ein hunain o aberth y rheiny a gyfrannodd at y frwydr yn erbyn ffasgiaeth yn Sbaen.

“Mae straeon yr unigolion a adawodd eu cartrefi i ymladd dros yr achos pwysig yma yn ein heffeithio o hyd, ac mae'n rhan o'n hanes y mae angen ei gydnabod yn y modd yma.”

Roedd rhai a ddaeth yn ôl ar ôl y rhyfel wedi dod yn arweinwyr undebau llafur, gan ennill tipyn o enw iddyn nhw eu hunain, yn enwedig Will Paynter. Cafodd y rhai a frwydrodd eu hanfarwoli gan yr ymgyrchydd gwleidyddol a'r canwr Paul Robeson.

Wrth annerch Cyfarfod Coffa'r Glowyr yn Aberpennar yn 1938, meddai Paul Robeson: “Roedd y dynion yma wedi ymladd nid yn unig dros Sbaen, ond drosta i a'r byd cyfan."

Mae modd i'r cyhoedd weld cofeb Rhyfel Cartref Sbaen yn nerbynfa Canolfan Ymwelwyr Taith Pyllau Glo Cymru, ochr yn ochr â'r arddangosfa Darganfod Celf newydd YN RHAD AC AM DDIM.

Mae arddangosfa deithiol Brigâd Ryngwladol Cymru, sy'n cynnwys y brigadau o Gymru a fu'n ymladd yn Rhyfel Cartref Sbaen, hefyd i'w gweld yn Nhaith Pyllau Glo Cymru tan ddiwedd mis Mehefin.

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 26th Mehefin 2019

Helpwch ni i wella - peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol neu ariannol, e.e. eich Rhif Yswiriant Gwladol neu fanylion cerdyn credyd.