Mae blwyddyn y Brifysgol bron wedi dod i ben ac mae Hamdden am Oes wedi ail-lansio'i Aelodaeth boblogaidd i Fyfyrwyr yn ystod yr Haf?
Rydyn ni'n gwybod bod nifer o fyfyrwyr yn dymuno parhau â'u hamserlen ymarfer corff yn ystod y gwyliau, neu'n awyddus i fanteisio ar wyliau'r haf i ddychwelyd i'r gampfa gyda'u ffrindiau.
Mae modd i chi brynu Aelodaeth yn ystod yr Haf i Fyfyrwyr ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Gorffennafn a 30 Medi a manteisio ar fynediad diderfyn i'r gampfa, pwll nofio, dosbarthiadau ffitrwydd a chwaraeon dan do mewn naw canolfan hamdden.
Bydd modd i chi ymaelodi ar ôl 1Gorffennaf, a byddwch chi ond yn talu ar gyfer y cyfnod rhwng eich diwrnod ymaelodi a 30 Medi - bydd y pris yn cael ei gyfrifo yn ôl y gyfradd fesul diwrnod.
Roedd yr Aelodaeth yn ystod yr Haf i Fyfyrwyr yn boblogaidd iawn yn ystod 2018. Dyma ffordd hyblyg a fforddiadwy o fwynhau cyfleoedd Hamdden am Oes yn ystod gwyliau'r brifysgol.
Ymunwch yn eich canolfan Hamdden am Oes agosaf neu e-bostio aelodaethhamdden@rhondda-cynon-taf.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Nodwch:
Bydd disgwyl i chi ddangos cerdyn NUS dilys er mwyn ymuno â'r Cynllun Aelodaeth yn ystod yr Haf i Fyfyrwyr.
Mae modd i chi ymaelodi unrhyw bryd ar ôl 1 Gorffennaf a thalu'r swm sy'n weddill hyd at 30 Medi. Caiff y swm yma ei chyfrifo yn ôl cyfradd fesul diwrnod.
Bydd yr aelodaeth yn dod i ben ar 30 Medi, beth bynnag yw eich dyddiad ymaelodi.
Mae modd sefydlu Aelodaeth Hamdden am Oes i Fyfyrwyr yn rhan o aelodaeth debyd uniongyrchol £23 y mis dros gyfnod o 12 mis.
Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 26th Mehefin 2019