Mae'r Cyngor wedi atal ei archwiliadau rhagweithiol o'r priffyrdd yn dilyn canllawiau iechyd cyhoeddus sy'n ymwneud â chadw pellter cymdeithasol. Er hyn, bydd yn dal i ymateb i faterion brys yn ystod y cyfnod heriol yma.
Mae modd i aelodau'r cyhoedd barhau i roi gwybod i ni am diffygion brys i'r priffyrdd trwy ffonio 01443 425001 (neu 01443 425011 y tu allan i oriau swyddfa arferol), neu trwy'r swyddogaeth 'Rhoi adroddiad' ar-lein, yn: https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Contactus/Reportit.aspx.
Dylai trigolion gyfyngu eu hadroddiadau i faterion gwirioneddol frys ar yr adeg yma, fel bod modd i ni dargedu adnoddau yn ein hadrannau Gofal i Gwsmeriaid a Phriffyrdd yn briodol yn ystod yr argyfwng iechyd difrifol yma.
Fydd ceisiadau nac adroddiadau trwy gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Cyngor ddim yn cael eu derbyn na'u gweithredu yn ystod y cyfnod yma.
Wedi ei bostio ar Dydd Iau 9th Ebrill 2020