
Jerry Brown
Diolch ENFAWR i'n harwyr rheng flaen ymroddgar, sy'n dal i ddarparu gwasanaethau rheng flaen allweddol i drigolion Rhondda Cynon Taf yn ystod y cyfnod heriol yma.
Mae miloedd o staff rheng flaen y Cyngor yn parhau i ddarparu gwasanaethau rheng flaen pwysig i drigolion ac yn cynnig cymorth ychwanegol i drigolion sy'n agored i niwed pan fydd angen.
Mae rhai o'n gweithwyr hyd yn oed wedi symud allan o'u cartrefi, lle mae eu teuluoedd yn hunanynysu, er mwyn sicrhau bod modd iddyn nhw barhau i weithio a darparu gwasanaethau allweddol, gan gynnwys gofal cymdeithasol a chasgliadau gwastraff ac ailgylchu; ac mae staff eraill wedi'u hadleoli o rai meysydd gwasanaeth fel bod modd i'r Cyngor barhau i gynnal y gwasanaethau hanfodol.
Ar hyn o bryd, rydyn ni'n parhau i gasglu gwastraff, gan gynnwys gwastraff gwyrdd, cewynnau a gwastraff bwyd, er gwaethaf yr heriau rydyn ni i gyd yn eu hwynebu.
Mae staff y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Gwasanaethau i Blant, ar y cyd â staff o'r Gwasanaeth Addysg a gwasanaethau eraill yn parhau i ddarparu cymorth hanfodol i deuluoedd, i'r henoed ac i bobl sy'n agored i niwed drwy gydol argyfwng iechyd cenedlaethol y coronafeirws.
O ganlyniad i hyn, mae 600 o Brydau yn y Gymuned yn dal i gael eu dosbarthu bob dydd ar hyd a lled Rhondda Cynon Taf. Mae staff y Cyngor hefyd yn darparu nifer o wasanaethau hanfodol eraill yn ystod y cyfnod yma, gan gynnwys darparu gofal plant i weithwyr hanfodol ac allweddol, prydau bwyd i’r rheiny sy'n agored i niwed a chartrefi i'r digartref.
Mae'r cyfnod digynsail yma wedi mynnu ysbryd cymunedol, ac yma yn Rhondda Cynon Taf, mae hi wir wedi bod yn ymdrech gymunedol gyda dros 900 o wirfoddolwyr, sefydliadau trydydd sector a grwpiau cymunedol yn dod i ymuno â'n harwyr rheng flaen.
Mae ein trigolion yn gwerthfawrogi'r holl gymorth yma, gyda nifer ohonyn nhw'n gosod negeseuon 'Diolch' ar eu biniau gwastraff a bagiau ailgylchu er mwyn i'r garfan casglu eu gweld.
Mae'r gweithwyr wir yn gwerthfawrogi'r weithred fach yma, ac felly dyma annog trigolion i ddweud diolch a'u helpu wrth eu gwaith er mwyn cynnal morâl y staff a gadael iddyn nhw wybod bod pobl yn gwerthfawrogi eu hymdrechion.
Meddai Jerry Brown, rheolwr ardal y Cyngor ar gyfer gwasanaethau gwastraff yn ardal Taf-elái: "Mae pob un o'n carfanau casglu yn gwerthfawrogi'r negeseuon dyddiol gan drigolion yr ardal.
"Mae gan ein carfanau deuluoedd hefyd, ac mae'n amser pryderus i bob un ohonon ni. Ond mae gwybod bod ein gwaith ni'n cael ei werthfawrogi wir yn gwneud gwahaniaeth."
Mae Mr Brown, sy'n dad i ddau o blant ac yn 57 oed o Bontypridd, wedi gweithio i'r Cyngor ers 38 mlynedd ac erioed wedi gweld rhywbeth tebyg yn ystod ei yrfa.
Dywedodd: "Rydw i'n dechrau ar fy ngwaith am 6.30am, gan mai fi sy'n sicrhau bod ein cerbydau yn barod i fynd pan fydd y carfanau'n cyrraedd. Mae gyda ni 22 cerbyd sy'n casglu pob math o bethau, gan gynnwys cewynnau, gwastraff ailgylchu, sbwriel a gwastraff bwyd."
Mae Mr Brown, sy'n briod â Paula ac yn dad i Dean a Liam, wedi gweld nifer o newidiadau yn ei swydd yn ystod y tri degawd diwethaf, gan gynnwys cyflwyno casgliadau ailgylchu amrywiol yn ogystal â chasgliadau sbwriel.
Mae ef a'i garfanau Gofal y Strydoedd yn gwerthfawrogi'r geiriau caredig gan y cyhoedd.
Dywedodd: "Mae ein trigolion yn ailgylchu fwy nag erioed, gan fod pawb gartref. Ar hyn o bryd, rydyn ni'n parhau i gasglu gwastraff ac mae agwedd y cyhoedd yn wych. Mae pawb yn garedig iawn, gyda nifer yn gadael lluniau a negeseuon o ddiolch ar eu biniau a'u bagiau sbwriel.
"Mae hyn yn golygu cryn dipyn i ni ar hyn o bryd. Rydyn ni'n arddangos y negeseuon yma yn ein faniau ac yn y depo, ac mae'n hwb mawr i bawb yn ystod y cyfnod yma.
"Rydw i mor falch o'r holl waith mae fy ngharfan yn ei wneud yn ystod cyfnod mor anodd. Dilynwch y cyngor i Aros Gartref, Diogelu'r GIG ac Achub Bywydau."
Dyma ofyn i drigolion helpu i gadw eu hunain a'n gweithwyr yn ddiogel drwy olchi dolenni biniau ag olwynion a bocsys gwastraff bwyd cyn ac ar ôl casgliadau. Hefyd, cofiwch gadw pellter cymdeithasol o 2 fetr os ydych am gyfarch neu ddiolch y gweithwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth: "Dyma gyfnod ansicr sy'n effeithio ar ein bywydau ni.
"Serch hynny, mae staff rheng flaen ein Cyngor yn dal i wneud eu gorau glas i ddarparu gwasanaeth i'r cyhoedd ac rydw i'n diolch o galon i bob un ohonyn nhw.
"Er ei bod yn gwbl briodol ein bod yn canmol staff y GIG a gweithwyr ym maes gofal, yn ogystal â gweithwyr rheng flaen y sector breifat, mae hi hefyd yn bwysig i ni gydnabod gwaith gweithwyr rheng flaen y Cyngor."
Mae holl staff y Cyngor, sy'n cael eu hystyried yn weithwyr allweddol ac sy'n gweithio yn ein cymunedau, yn cydymffurfio â chanllawiau cadw pellter cymdeithasol y Llywodraeth.
I gael y newyddion diweddaraf am y gwasanaethau y mae'r Coronafeirws yn effeithio arnyn nhw, ewch i www.rctcbc.gov.uk/iechydcyhoeddusrhct. Ar gyfer ailgylchu a chasglu gwastraff, ewch i https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/EmergenciesSafetyandCrime/InformationforResidentsCoronavirus/Refuserecyclingandbulkyitemcollections.aspx.
Aros Gartref. Diogelu'r GIG. Achub Bywydau.
Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 14th Ebrill 2020