Wrth i'r argyfwng iechyd gwladol barhau, mae'r Cyngor wedi penderfynu canslo'r holl achlysuron sy'n cael eu rhedeg gan yr Awdurdod tan ddiwedd mis Medi.
Mae'r Cyngor wedi penderfynu ymestyn y cyfnod yng ngoleuni'r gwaith paratoi a threfnu sy'n ofynnol i gynnal achlysuron ac er budd diogelwch y cyhoedd wrth i'r argyfwng iechyd gwladol barhau.
Ym mis Mawrth, cyhoeddodd y Cyngor i ddechrau y byddai'r holl achlysuron hyd at ddiwedd mis Mehefin yn cael eu canslo. Dywedodd hefyd y byddai Taith Pyllau Glo Cymru a Theatrau'r Cyngor yn cael eu cau. Bydd staff y gwasanaethau yma'n cael eu dargyfeirio i gefnogi gweithrediad parhaus y gwasanaethau rheng-flaen allweddol sy'n cefnogi cymunedau a thrigolion, gan gynnwys y rhai mwyaf agored i niwed yn y Sir, yn ystod yr amser digynsail yma.
Mae'r Cyngor yn gwerthfawrogi y bydd preswylwyr wedi bod yn edrych ymlaen at ffefrynnau blynyddol fel Cegaid o Fwyd Cymru a Phicnic y Tedis. Yn anffodus, mae adleoli staff i gefnogi gwasanaethau rheng-flaen a'r mesurau cadw pellter cymdeithasol yn golygu does dim modd i'r Cyngor gynnal yr achlysuron sydd ar ddod nac ymgymryd â'r gwaith paratoi a chynllunio angenrheidiol ar gyfer achlysuron yr haf o dan yr amgylchiadau presennol.
Mae'r Cyngor hefyd yn aros am arweiniad cenedlaethol gan Lywodraeth San Steffan ar goffáu 75 mlynedd ers Diwrnod VE a bydd yn cyhoeddi'r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion fel y bo'n briodol.
Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 8th Ebrill 2020