flood two - Copy

Yn dilyn y difrod sylweddol a achoswyd gan Storm Dennis dros y penwythnos, mae’r Cyngor yn cyhoeddi diweddariad i drigolion ar y gwaith adfer hyd yn hyn a’r camau nesaf i’w cymryd dros yr wythnosau nesaf.

Rydyn ni'n amcangyfrif bod y llifogydd wedi effeithio ar fwy na 530 o gartrefi ac o leiaf 300 o fusnesau ledled y Fwrdeistref Sirol. Er mwyn ymateb i hyn, mae Arweinydd y Cyngor wedi sefydlu Grant Adfer Llifogydd Cymunedol - Tâl Caledi, sy'n sicrhau bod £500 ar gael i bob cartref sydd wedi'i effeithio, a £1,000 i bob busnes bach a chanolig sydd wedi'i effeithio er mwyn helpu i fynd i'r afael ag effaith gychwynnol y llifogydd. 

Er mwyn mynd i’r afael â’r difrod, mae staff y Cyngor o nifer o adrannau, gan gynnwys Glanhau, Iechyd yr Amgylchedd, Priffyrdd, Tai a Chymunedau am Waith, wedi bod yn gweithio i gefnogi’r preswylwyr a’r busnesau hynny sydd wedi'u heffeithio. Mae Persimmon, CBS Bro Morgannwg a chontractwyr a sefydliadau eraill ledled RhCT hefyd wedi darparu cymorth.  Mae lefel y difrod, na welwyd ei debyg o'r blaen, yn golygu nad yw pob stryd, tŷ a busnes wedi cael ymweliad eto. Serch hynny, mae pob ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau bod y rheiny y mae'r tywydd wedi effeithio arnynt wedi cael cymorth neu wrthi'n cael cymorth.

Bydd yr ymdrechion yma'n parhau dros yr wythnosau nesaf, gan ganolbwyntio ar y trigolion hynny sydd wedi'u gwneud yn ddigartref a busnesau sydd wedi'u gorfodi i gau o ganlyniad i'r storm. 

Gyda rhagolygon tywydd garw pellach ar gyfer heddiw (dydd Mercher 19) ac yfory (dydd Iau 20), mae'r Cyngor yn parhau i flaenoriaethu gwaith i amddiffyn trigolion a busnesau, gan weithio'n agos â Chyfoeth Naturiol Cymru, sy'n bennaf gyfrifol am ein hafonydd.

Yn ogystal â hynny, mae Storm Dennis hefyd wedi peri lefel sylweddol o ddifrod i nifer o briffyrdd, strwythurau ac adeiladau'r Cyngor. Mae hyn yn dal i effeithio ar ddarparu gwasanaethau ac mae'r tirlithriadau ym ar Fynydd y Maerdy a Tylorstown yn dal i gael eu monitro'n agos.

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd y Cyngor: “Rydyn ni'n yn dal i geisio deall cwmpas y difrod a achoswyd gan Storm Dennis dros y penwythnos, er bod yr effaith y mae’r tywydd wedi’i chael ar ein cymunedau yn hollol glir. 

“Mae’r arwyddion yn dangos bod rhai ardaloedd yng ngogledd Rhondda Cynon Taf wedi gweld gwerth mis o law mewn dim ond 24 awr ac, o ganlyniad i hynny, chwyddodd ein tair afon i'r lefelau uchaf a gofnodwyd, gydag Afon Taf yn chwyddo dros 5 metr ar un adeg, gan dorri'r record sydd wedi sefyll er 1979.

“Er mwyn ymateb i hyn, mae staff y Cyngor a nifer o asiantaethau a sefydliadau eraill wedi bod yn gweithio bob awr o’r dydd i gefnogi ein cymunedau, a hoffwn ddiolch am eu hymdrechion.

“Ar ôl ymweld â nifer o ardaloedd ledled y sir sydd wedi’u taro’n arbennig o wael, gan gynnwys Pontypridd, Nantgarw, Pentre ac Aberpennar, rwyf wedi sefydlu Grant Adfer Llifogydd Cymunedol - Tâl Caledi er mwyn darparu rhywfaint o gefnogaeth i’r cartrefi a’r busnesau sydd wedi’u heffeithio. Caiff rhagor o wybodaeth a manylion am wneud cais am y cynllun ei ryddhau’n fuan. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi sefydlu cronfa argyfwng o hyd at £10 miliwn i helpu i ymateb i'r difrod a achoswyd.

“Rydyn ni’n annog yr holl drigolion sydd wedi dioddef o lifogydd mewnol i roi gwybod i ni trwy lenwi'r e-ffurflen ar wefan y Cyngor.  Bydd hyn hefyd yn rhoi cyfle i drigolion archebu casgliad gwastraff am ddim o nwyddau cartref a ddifrodwyd gan y llifogydd.

“Rydyn ni’n deall bod hwn yn gyfnod trist iawn i’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan y llifogydd, ond hoffwn dawelu’ch meddwl bod y Cyngor yn gwneud pob ymdrech i ddarparu cymaint o gefnogaeth ag y gallwn."

Mae trigolion sydd wedi’u heffeithio gan lifogydd mewnol yn cael eu hannog i roi gwybod i'r Cyngor trwy lenwi e-ffurflen, sydd i'w gweld yma ynghyd â gwybodaeth arall am y gefnogaeth sydd ar gael: https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/EmergenciesSafetyandCrime/Floodingassistance.aspx

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 19th Chwefror 2020

Helpwch ni i wella - peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol neu ariannol, e.e. eich Rhif Yswiriant Gwladol neu fanylion cerdyn credyd.