HMD Cab

Mae'r Cyngor yn nodi Diwrnod Cofio'r Holocost 2020 drwy gynnal achlysur arbennig yn ei bencadlys ar 27 Ionawr. 

Bydd munud o dawelwch am 11am a bydd cyfle i aelodau o staff fyfyrio ar yr erchyllterau gwaethaf erioed – pan gafodd miliynau o bobl eu lladd gan y Natsïaid, a'r hil-laddiadau a ddaeth ar ôl hynny. 

Y Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, fydd yn arwain y gwasanaeth. Bydd baneri hefyd wedi eu hanner gostwng, yn arwydd o barch.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor, gyda chyfrifoldeb am faterion Cydraddoldeb ac Amrywioldeb: "Mae'n bwysig bod y byd yn nodi Diwrnod Cofio'r Holocost. Rhaid peidio byth ag ailadrodd y cyfnod tywyll yma o hanes ac mae'n bwysig ein bod yn nodi ac yn cofio achlysuron teimladwy fel yr Holocost.

"Mae arnom ni gyfrifoldeb dros genedlaethau'r dyfodol i sicrhau nad yw erchyllterau fel hyn yn digwydd eto. Rhaid inni ddysgu o'r gorffennol er mwyn creu dyfodol mwy diogel a gwell ar gyfer y genhedlaeth nesaf."

"Mae Rhondda Cynon Taf yn nodi'r digwyddiad yma gyda'r parch y mae'n ei haeddu."

Prif thema fyd-eang Diwrnod Cofio'r Holocost eleni yw 'Sefyll Gyda'n Gilydd' a bydd yn nodi 75 mlynedd ers rhyddhau carcharorion o wersyll difa Auschwitz-Birkenau. Mae eleni hefyd yn nodi 25 mlynedd ers yr hil-laddiad yng ngwlad Bosnia. 

Bydd Carfan Materion Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Cyngor Rhondda Cynon Taf hefyd yn ymweld ag ysgolion ledled y Fwrdeistref Sirol, er mwyn siarad â myfyrwyr am Ddiwrnod Cofio'r Holocost.

Mae gweithdai am gael eu cynnal hefyd ym Mhontypridd ac Amgueddfa Cwm Cynon ddydd Iau, 16 Ionawr. Caiff grwpiau'r gymuned eu gwahodd i ddod ynghyd i greu Canhwyllyr â 75 fflam arno. 

Bydd hwn yn cael ei ddadorchuddio mewn achlysur arbennig i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost yn Amgueddfa Cwm Cynon ddydd Mawrth, 28 Ionawr (1.30pm). 

Rhwng 1941 ac 1945, ceisiodd y Natsïaid ddifa holl Iddewon Ewrop. Caiff yr ymgais systematig wedi'i gynllunio yma i lofruddio pobl Ewrop ei adnabod fel cyfnod yr Holocost. 

Erbyn diwedd yr Holocost, roedd chwe miliwn o ddynion, menywod a phlant Iddewig wedi marw mewn getoau, gwersylloedd crynhoi a gwersylloedd difa, neu wedi'u lladd drwy gael eu saethu. 

Cafodd dros 1.1 miliwn o bobl eu llofruddio yn Auschwitz-Birkenau – 90 y cant o'r rheiny'n Iddewon. 

Mae Thema Diwrnod Cofio'r Holocost 2020 'Sefyll Gyda'n Gilydd ' yn edrych ar sut mae cyfundrefnau hil-leiddiol drwy gydol hanes wedi chwalu cymdeithasau yn fwriadol trwy wthio grwpiau penodol i'r cyrion, a sut y mae modd i unigolion herio'r tactegau yma gan gydsefyll â'u cymdogion a'u cyd-ddynion gan godi eu llais yn erbyn y gormes.

Yn y blynyddoedd a arweiniodd at yr Holocost, roedd polisïau a phropaganda Natsïaidd yn annog rhaniadau yng nghymdeithas yr Almaen yn fwriadol – gan annog Almaenwyr 'Ariaidd' i gadw eu hunain ar wahân i'w cymdogion Iddewig.

Cafodd yr Holocost, erledigaeth y Natsïaid o grwpiau eraill a phob hil-laddiad dilynol eu cyflawni gan ddinasyddion cyffredin doedd ddim yn sefyll â chymdogion oedd yn cael eu targedu.

Mae Diwrnod Cofio'r Holocost 2020 yn nodi 75 mlynedd ers rhyddhau carcharorion o wersyll difa Auschwitz – dyma garreg filltir arwyddocaol sydd hefyd, yn anffodus, yn golygu bob llai a llai o oroeswyr dal yn fyw i rannu eu straeon a'u profiadau. Mae hefyd yn nodi 25 mlynedd ers yr hil-laddiad ym Mosnia.

“Don’t be content in your life just to do no wrong, be prepared every day to try and do some good”

Geiriau hynod deimladwy a gwerthfawr Syr Nicholas Winton, a achubodd 669 o blant o rannau o Ewrop roedd y Natsïaid wedi'u meddiannu

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 27th Ionawr 2020

Helpwch ni i wella - peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol neu ariannol, e.e. eich Rhif Yswiriant Gwladol neu fanylion cerdyn credyd.