Bydd y Cyngor yn dechrau'r broses arwyddocaol o symud 60,000 tunnell o ddeunydd y domen lo cyn bo hir ar ôl y tirlithriad yn Nhylorstown yn ystod Storm Dennis. Mae hefyd wedi amlinellu ei weledigaeth ar gyfer yr ardal yn y dyfodol.
Mae'r safle, sydd wedi'i leoli ar ochr mynydd Llanwynno, yn domen Categori D ac roedd yn cael ei archwilio bob tri mis yn erbyn cyfres o feini prawf monitro cyn y storm, a hynny yn unol â'r rheoliadau perthnasol. Ym mis Chwefror 2020, cafodd Rhondda Cynon Taf ei tharo gan dair storm mewn ychydig wythnosau. O ganlyniad i Storm Dennis, y storm fwyaf difrifol ers 200 o flynyddoedd, syrthiodd mwy o law yn y Maerdy yng Nghwm Rhondda Fach nac yn unrhyw le arall yng Nghymru. Sbardunodd y glaw dirlithriad sylweddol ar 16 Chwefror.
Achosodd y tirlithriad rwystr ar ddyffryn yr afon, torrodd garthffos, cuddiodd bibell ddŵr strategol gyda sawl metr o rwbel a llwybr troed a llwybr beicio. Mae'r ardal ar gau o hyd i'r cyhoedd er diogelwch.
Ddydd Mawrth 9 Mehefin, ymwelodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Andrew Morgan, â'r safle gyda Swyddogion y Cyngor a chynghorwyr lleol. Roedd llif yr afon ar raddfa fawr, gweddillion coed yn yr afon a 60,000 tunnell o ddeunydd tomenni ar lefel yr afon o hyd.
Mae'r Cyngor wedi llunio cynllun adfer pedwar cam ar gyfer yr ardal, sy'n cynnwys:
- Cam Un - Gwaith draenio a thorri coed brys (wedi'i gwblhau),
- Cam Dau - Gwaith trwsio sgwrfa glan yr afon (i'w gwblhau yn 2020),
- Cam Tri - Symud deunydd i safleoedd derbyn ac ailagor llwybrau cerdded dros dro (i'w gwblhau yn 2020),
- Cam Pedwar - Adfer y domen bresennol ar y llethr a gwella'r llwybr i'r gymuned a pharc glan yr afon (i'w gwblhau yn 2021).
Mae'r Cyngor wedi cwblhau Cam Un o'r cynllun adfer, a bydd yn dechrau ar Gam Dau a Cham Tri erbyn mis Gorffennaf 2020.Bydd hyn yn sicrhau bod modd cwblhau'r ddau gam yn 2020 – gan ystyried cyfyngiadau Cyfoeth Naturiol Cymru o ran gweithio yn yr afon o ddiwedd mis Hydref. Byddwn ni'n gwneud cais am ganiatâd cynllunio o ran y gwaith yma a Cham Pedwar cyn gynted ag sy'n bosibl.
Mae'r Cyngor yn ymchwilio i'r cyllid sydd ar gael ac yn trafod hyn gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o ran Camau Dau a Thri. Mae disgwyl i hyn gostio tua £2.5 miliwn.
Bydd cynllun defnydd terfynol yn dilyn y pedwar cam yma. Er bod y cynllun, sydd i'w gyflawni mewn blwyddyn ariannol yn y dyfodol, yn y cyfnodau cynnar o ran cynllunio, rydyn ni'n rhagweld y bydd yn llwybr troed ar lan yr afon gyda darpariaeth feicio, tirweddu meddal ac ardal i'r gymuned, yn ogystal â phlannu coed.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Daeth Storm Dennis a chyfnodau estynedig o law a thywydd heb ei debyg i Rondda Cynon Taf yn gynharach y flwyddyn yma. Cafodd hyn effaith ar gannoedd o gartrefi a busnesau ac achosodd ddifrod sylweddol ledled y Sir. Ar ôl hyn, roedd ymgyrch lanhau enfawr. Mae'r Cyngor bellach yn cynllunio nifer o brosiectau hirdymor i drwsio'r difrod a gafodd ei wneud i ffyrdd, adeiladau a'n tirwedd, yn ogystal â gwella cynlluniau llifogydd a chwlferi.
“Heddiw, bwriad y cyhoeddiad yma yw tawelu meddyliau trigolion bod cynnydd wedi'i wneud o ran cynllunio'r gwaith adfer sylweddol sydd ei angen ar dirlithriad Tylorstown. Bydd gwaith o symud 60,000 tunnell o ddeunydd tomenni yn dechrau'n fuan iawn. Bydd hyn yn gwneud y safle'n fwy diogel, datrys nifer o broblemau sy'n berthnasol i gwrs yr afon, ac yn gweithio tuag at ailagor y llwybr cerdded a'r llwybr beicio.
“Mae'r Cyngor yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o ran yr opsiynau cyllid i dalu costau'r gwaith yma - mae disgwyl iddo gostio tua £2.5 miliwn. Mae'r trafodaethau cychwynnol wedi bod yn gadarnhaol iawn o ran hyn. Serch hynny, yng ngoleuni'r gwaith ac er diogelwch y cyhoedd, mae modd i fi gadarnhau heddiw fod y Cyngor yn bwrw iddi â'r gwaith, a bydd yn ariannu'r cyfnod yma o waith dros dro, a hynny ar fenter yr Awdurdod ei hun. Rwy'n galw ar Lywodraeth y DU i wireddu'i addewidion drwy ariannu costau'r gwaith yma yn llawn a thrafod gwaith ehangach Cam 4 fel bod modd i'r gwaith fynd rhagddo y flwyddyn nesaf.
“Mae manylion am ddefnydd terfynol yr ardal ac uchelgais ehangach y safle wedi'u cyhoeddi heddiw. Mae hyn yn cynnwys creu llwybr Teithio Llesol tri metr o led rhwng y Maerdy a Phont-y-gwaith. Bydd hyn yn cynnig llwybr ar lan yr afon a darpariaeth feicio fyddai'n debyg iawn i'r llwybr cerdded presennol ym Mharc Gwledig Barry Sidings, yn ogystal ag opsiynau i gael parc ar lan yr afon a mannau eistedd, tirweddu a phlannu coed. Cynlluniau cynnar yw'r rhain ar hyn o bryd, a byddan nhw'n cael eu cyflawni gyda Cham 4.
“Rydw i'n awyddus i sicrhau bod y Cyngor yn ymgynghori â'r gymuned leol wrth i'r cynlluniau yma ddatblygu ac ein bod ni'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd pob cam y broses yma i'r gymuned.”
Wedi ei bostio ar 10/06/20