Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: “Mae cynllunio ar gyfer darparu gwasanaethau mewn ymateb i argyfwng iechyd cenedlaethol y Cornoafirws yn sefyllfa sy'n datblygu o dydd i ddydd ac yn golygu bod rhaid i ni ymateb i gyngor iechyd cyhoeddus sy'n cael ei ddarparu gan Lywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig.
“Mae’r sefyllfa’n parhau i newid yn ddyddiol ac wrth i effeithiau'r Coronafeirws gynyddu, mae'n fwyfwy tebygol y bydd angen addasu rhagor o wasanaethau a'r modd rydyn ni'n gweithredu fel Cyngor. Mewn amgylchiadau o'r fath bydd angen rhoi blaenoriaeth i wasanaethau rheng flaen allweddol a sicrhau fod y gwasanaethau ar gael i'r bobl a'r plant sy mwyaf agored i niwed.
“Mae'r Cyngor eisoes yn gwneud nifer o newidiadau i'r modd y mae gwasanaethau'n gweithredu mewn amrywiaeth o feysydd a, lle bo hynny'n briodol, mae'n cefnogi staff i weithio o bell a chynnal swyddogaethau busnes craidd am gyhyd ag y bo modd.
“Dros y ddau ddiwrnod diwethaf rydyn ni wedi cyhoeddi ein bod ni'n cau theatrau ac atyniadau i ymwelwyr, ac erbyn hyn mae modd i ni gyhoeddi mai dim ond chwech o'n llyfrgelloedd fydd yn parhau i aros ar agor - yng Nglynrhedynog, y Porth, Garth Olwg, Llantrisant, Aberdâr ac Aberpennar. Mae'n debygol y bydd rhaid i ni stopio neu ohirio rhagor o wasanaethau dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf, naill ai mewn ymateb newidiadau i gyngor iechyd neu er mwyn dargyfeirio adnoddau ein staff i feysydd allweddol y Cyngor, fel gofal cymdeithasol.
“Rydyn ni'n cydnabod y bydd cyhoeddiad heddiw gan Lywodraeth Cymru fydd yn cadarnhau y bydd addysg statudol ym mhob ysgol yn Nghymru yn dod i ben erbyn dydd Gwener yn cael effaith ar deuluoedd ledled y Fwrdeistref Sirol, yn enwedig o ran y sefyllfa gofal plant. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau y bydd pob plentyn cymwys yn parhau i dderbyn prydau ysgol am ddim. Bydd gwybodaeth bellach yn cael ei rhyddhau am y ddarpariaeth i weithwyr allweddol cyn gynted â phosibl.
“Lle bo modd, byddwn ni'n ceisio gostwng lefel y ddarpariaeth yn hytrach na chael gwared ar y gwasanaeth yn llwyr, ond yn seiliedig ar yr effaith anochel y bydd y coronafirws yn ei chael ar weithlu'r Cyngor, o ran y rhai sy'n amlygu symptomau ac yn gorfod hunan-ynysu, rhaid i'r modd rydyn ni'n darparu gwasanaethau newid yn barhaus er mwyn ymateb i sefyllfa sy'n newid o ddydd i ddydd.
“Gall hyn gynnwys defnyddio adeiladau’r Cyngor fel llyfrgelloedd ac ysgolion yn ganolfannau ar gyfer cydlynu ymatebion brys, a gallai’r effaith ehangach hefyd amrywio o leihau amlder casgliadau sbwriel, hyd at argaeledd gwasanaethau fel Pryd-ar-glud. Mae'r gyfres o wasanaethau sy wedi'u amlygu yn y cyfarfod heddiw yn cynnig darlun llwm o'r effaith bosibl y gall Coronafeirws ei chael o safbwynt gwasanaethau'r Cyngor. Fodd bynnag, drwy ddilyn cynlluniau cymorth parhaol i fusnesau a chyngor iechyd cyhoeddus, byddwn ni mewn sefyllfa gref i gynnal gwasanaethau hanfodol er lles ehangach ein preswylwyr yn ystod yr argyfwng iechyd cenedlaethol yma sy'n parhau i esblygu.
“Yn y cyfnod digyffelyb yma, bydd iechyd a lles preswylwyr a gweithwyr y Cyngor yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i'r Cyngor.
“Pe bai’r angen yn codi, bydd unrhyw benderfyniadau y mae’n rhaid eu gwneud yn seiliedig ar y canllawiau diweddaraf sy'n cael eu cyhoeddi naill ai gan Lywodraeth Cymru neu'r DU neu gan sefydliad Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac yn y sefyllfaoedd yma efallai bydd rhaid i'r Cyngor ymateb ar frys. Mae'r penderfyniad brys rwy wedi ei gyhoeddi heddiw yn ceisio paratoi ar gyfer pob digwyddiad gan gynnwys y modd y mae penderfyniadau'n cael eu cymryd yn ystod y sefyllfa argyfyngus yma dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
“Rwy’n annog preswylwyr ledled y Fwrdeistref Sirol i ddilyn cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru ac am yr wybodaeth ddiweddaraf ewch i'n tudalen we bwrpasol, sef www.rctcbc.gov.uk/iechydcyhoeddusrhct.”
Mae modd gweld copi o'r penderfyniad brys sy wedi ei wneud gan Arweinydd y Cyngor heddiw yma.
Tua dechrau'r wythnos hon, cafodd y Cynghorwyr eu hysbysu mai dim ond cyfarfodydd lle mae materion brys i'w trafod fydd yn cael eu cynnal yn y siambr am y tro.
Mae'r Coronafirws wedi effeithio ar wasanaethau'r Cyngor. Dyma rai o'r gwasanaethau sy wedi'u heffeithio: