Bydd y Cyngor yn cefnogi Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod, sef Diwrnod Rhyngwladol y Rhuban Gwyn unwaith eto eleni, ddydd Mercher 25 Tachwedd.
Bob blwyddyn, mae miloedd o bobl o gwmpas y byd yn sefyll yn erbyn trais domestig, yn codi eu lleisiau ac yn dweud NA i drais yn erbyn menywod. Mae eleni yn bwysicach nag erioed gyda chynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o drais, aflonyddu a cham-drin yn ystod pandemig y Coronafeirws.
Eleni, mae hi'n chwe mlynedd ers i Gyngor Rhondda Cynon Taf gael ei gydnabod gan ymgyrch y Rhuban Gwyn am ei waith i ddod â thrais yn erbyn menywod i ben. Cyngor Rhondda Cynon Taf oedd yr awdurdod cyntaf yng Nghymru i gael cydnabyddiaeth o'r fath.
Mae'r gefnogaeth honno'n parhau hyd heddiw o ganlyniad i ymrwymiad parhaus y Cyngor a'i bartneriaid, gan gynnwys Heddlu De Cymru, Cymorth i Fenywod RhCT a darparwyr tai lleol. Rydyn ni'n cydweithio i roi cymorth i ddioddefwyr trais domestig.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o fod yn sefydliad â statws achrededig y Rhuban Gwyn.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol: “Er gwaethaf cyfyngiadau Covid-19, mae rhaid i ni i gyd barhau i sefyll yn erbyn a herio gweithredoedd annerbyniol trais domestig.
“Mae ymgyrch y Rhuban Gwyn yn annog dynion ledled y byd i gydnabod yr angen iddyn nhw gymryd cyfrifoldeb a gweithio tuag at ddyfodol heb drais yn erbyn menywod.
“Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gefnogi Diwrnod y Rhuban Gwyn. Rhaid i ni beidio byth â chyflawni, esgusodi nac aros yn ddistaw am drais yn erbyn menywod a byddwn i'n annog ein trigolion i wisgo'ch Rhuban Gwyn gyda pharch i ddangos eich cefnogaeth.
“Mae'r Cyngor hefyd yn rhoi cymorth i blant sydd wedi'u heffeithio gan drais domestig, yn gweithio gyda throseddwyr i fynd i'r afael a'u hymddygiad annerbyniol ac, yn fwyaf pwysig, yn cadw dioddefwyr yn ddiogel.
“Mae modd i drais domestig effeithio ar unrhyw un yn Rhondda Cynon Taf, waeth beth yw eu hoedran, eu hil, eu crefydd neu eu rhyw. Mae rhaid i ni i gyd feddwl am yr hyn sy'n digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig, yn enwedig yn ystod cyfnod pan fo bywydau pawb wedi newid yn sylweddol.”
Cefnogwch Ddiwrnod Rhyngwladol y Rhuban Gwyn eleni ddydd Mercher 25 Tachwedd. Am ragor o fanylion, ewch i www.whiteribbon.org.uk
Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 25th Tachwedd 2020