Mae Vision Products y Cyngor, sydd wedi ennill gwobrau, wedi lansio ei wefan newydd, gan arddangos yr holl waith rhyfeddol y mae'n ei wneud i weddill y byd.
Mae Vision Products yn cael ei redeg fel 'busnes â chymorth' yn rhan o Gyngor RhCT. Mae'n cefnogi oedolion ag anableddau i oresgyn y rhwystrau o ran cyflogaeth, gan ddarparu cyfleoedd iddyn nhw allu ennill sgiliau a chymwysterau er mwyn dod o hyd i gyflogaeth gynaliadwy â chyflog.
Daw'r cyfleoedd hyn drwy ddarpariaeth yr adran gweithgynhyrchu PVCu, y Gwasanaeth Offer Cymunedol Integredig, Siopau Symudedd Vision a'r Adran Technoleg a Gwasanaethu yn Vision Products.
Ewch i wefan newydd Vision Products
Mae lansio gwefan newydd Vision Products yn 2020 yn garreg filltir gyffrous yn hanes y busnes, wrth iddo arddangos ei wasanaeth ar blatfform byd-eang.
Mae'r wefan yn crynhoi popeth sy'n gwneud Vision Products yn fusnes gwych - fel y grwpiau o gleientiaid y mae'n eu gwasanaethu, y nwyddau a'r gwasanaethau o ansawdd uchel y mae'n eu darparu, ond yn bwysicaf oll, y gweithwyr rhyfeddol sy'n galon ac enaid y busnes.
Mae'r wefan yn rhoi mewnwelediad i'r gwaith anhygoel y mae'r busnes yn ei wneud yn y gymuned leol ac ymhlith staff.
Dewch i weld beth sydd gan ei staff i'w ddweud
Meddai'rCynghorydd Geraint Hopkins, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a'r Gymraeg: “Rwy’n llongyfarch Vision Products ar lansiad ei wefan newydd a chyffrous ac yn gobeithio y bydd yn ennyn llawer o ddiddordeb o bell ac agos.
“Mae gan Vision Products weithlu anhygoel a dros y blynyddoedd mae wedi sefydlu ei hun ac wedi dod yn fusnes uchel ei barch o fewn y farchnad hynod gystadleuol, yn ddomestig ac yn fasnachol.
“Dros y blynyddoedd mae brand Vision Products wedi goroesi ac mae'n parhau i esblygu ac addasu i'r ffordd newydd o fyw.
"Mae Vision Products yn parhau i weithio gyda phobl ag anableddau, ac mae ei raglen brentisiaeth i bobl ifainc yn cael ei chydnabod fel arfer da yn y diwydiant gweithgynhyrchu.
“Rwy’n anfon fy nymuniadau gorau at bawb sy’n gysylltiedig â Vision Products ac rwy'n edrych ymlaen at weld y bennod nesaf yn ei hanes llwyddiannus yn y blynyddoedd i ddod.”
Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 24th Tachwedd 2020