Yn dilyn y llifogydd digynsail a ddaeth yn sgil y stormydd eithriadol a effeithiodd ar Rondda Cynon Taf ac ardaloedd eraill yng Nghymru, mae Arweinydd Cyngor RhCT wedi cyhoeddi'r datganiad canlynol mewn ymateb i gyhoeddi adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor RhCT: “Rwy'n croesawu cyhoeddi adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rhinwedd ei swydd fel y prif gorff Rheoli Risg Llifogydd ar gyfer y prif afonydd yn Rhondda Cynon Taf.

"Chwefror 2020 oedd y mis Chwefror gwlypaf wedi'i gofnodi erioed, lle bwriodd tair storm, gan gynnwys Storm Dennis, ein cymunedau, a arweiniodd at y lefelau uchaf o law yng Nghymru yng Nghwm Cynon a Chymoedd y Rhondda. Yn ystod y cyfnod yma hefyd, cododd lefelau ein tair afon i'w lefelau uchaf ers dros ddeugain mlynedd.

"Heb os, roedd yr achosion o dywydd gwael yn eithriadol, gyda’r Swyddfa Dywydd yn cyhoeddi Rhybudd Coch prin. Cawson ni gadarnhad yn dilyn hyn fod Storm Dennis yn cael ei ystyried yn ddigwyddiad tywydd 1 mewn 290 mlynedd. Yn sgil y storm, cafodd bron i 1,500 o gartrefi a busnesau ledled y Fwrdeistref Sirol eu bwrw gan lifogydd.

"Yn syth ar ôl y digwyddiad, darparu cymaint o gefnogaeth â phosibl i'r rhai oedd wedi'u heffeithio gan lifogydd mewnol oedd nod y Cyngor. Gwnaethon ni hyn trwy gynnig mesurau fel Grant Adfer Cymunedau yn dilyn Llifogydd – Tâl Caledi. 

"Fodd bynnag, mae'r gwaith adfer llifogydd ehangach yn parhau, ac mae'r holl bartïon cysylltiedig wedi cydweithredu ac wedi gweithio'n galed i ymateb ac ymchwilio i'r achosion cymhleth sy wedi codi yn sgil y llifogydd.

"Mae CNC yn chwarae rhan sylweddol yn y broses rheoli llifogydd yn RhCT, gyda 30% o dir y Fwrdeistref Sirol dan gyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae hyn yn cynnwys prif afonydd a'r gwaith rheoli coedwigoedd yr ucheldir, gan gynnwys prosesau clirio coed a chynaeafu. Dioddefodd cymunedau yn ne'r Sir yn enwedig, gan gynnwys Pontypridd, Trefforest a Ffynnon Taf, ar ôl i'r Afon Taf orlifo dros y lan mewn sawl lleoliad. Bydd angen sicrwydd ar drigolion a busnesau yn yr ardaloedd yma y byddai'n bosibl lliniaru'r perygl o lifogydd yn y dyfodol.

"Dylid nodi bod amddiffynfeydd llifogydd prif afonydd wedi'u cynllunio i ddelio â digwyddiadau 1 mewn 100 mlynedd ac mae'n bwysig cydnabod, yn aml, bod angen gwneud mwy nag adeiladu waliau llifogydd uwch. Serch hynny, mae'n hanfodol bod yr holl opsiynau'n cael eu harchwilio yng ngoleuni effeithiau parhaus newid yn yr hinsawdd, a hynny gan geisio datrys y problemau gydag yswiriant sy'n ymwneud ag eiddo preswyl a masnachol sy'n cael eu heffeithio.

"Mae'n gwbl hanfodol, fodd bynnag, bod y materion sy'n ymwneud â'r systemau rhybuddio am lifogydd yn cael eu datrys. Rwy'n croesawu'r gydnabyddiaeth bod angen systemau a phrosesau newydd fel mater o flaenoriaeth i sicrhau dydyn ni byth yn gweld sefyllfa arall fel y methiannau yn ystod Storm Dennis. Mae'n amlwg cafodd y system ei llethu. Roedd perygl amlwg i fywyd yn ystod Storm Dennis a diolch byth na chafodd unrhyw un ei ladd yn uniongyrchol o ganlyniad i fethiant y system.

"Yn yr un modd, bydd angen sicrwydd pellach ar drigolion cymunedau fel Pentre ac Aberpennar yn dilyn y llifogydd a ddeilliodd o broblemau gyda phrosesau rheoli tir. Dangosodd tystiolaeth ffotograffig glir fod malurion ar y mynydd uwchben Pentre yn arbennig yn ffactor a effeithiodd yn sylweddol ar y cylfatiau yn yr ardal. Cyfrannodd hyn at lifogydd sylweddol.

"Bydd y Cyngor nawr yn defnyddio cynnwys adroddiad CNC i lywio ein hadroddiadau statudol ein hunain ar gyfer delio â'r llifogydd. Ar hyn o bryd rydyn ni'n gweithio trwy ein hymchwiliadau ar draws 28 o ardaloedd lle'r oedd llifogydd, ac rydyn ni'n datblygu ein hadroddiadau Adran 19 a fydd yn cael eu cyhoeddi cyn gynted â phosibl. Rwyf o'r farn bod rhaid i’r holl asiantaethau dan sylw barhau i weithio’n agos â’i gilydd i sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â’r materion sy wedi'u nodi. Rhaid hefyd sicrhau ein bod ni'n gweithio i sicrhau bod systemau cadarn ar waith rhag ofn byddwn ni'n wynebu digwyddiad o'r fath eto. Hoffwn i gynnal trafodaethau pellach gyda Llywodraeth Cymru a CNC yn benodol am y llifogydd ym Mhentre ac Aberpennar oedd yn deillio o'u tir."

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 22nd Hydref 2020

Helpwch ni i wella - peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol neu ariannol, e.e. eich Rhif Yswiriant Gwladol neu fanylion cerdyn credyd.