Bydd y ganolfan brofi COVID dros dro yn y Porth yn cael ei symud i swyddfeydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn Y Pafiliynau, Cwm Clydach, CF40 2XX, AR UNWAITH.
Gan fod nifer fawr o bobl wedi mynd i'r ganolfan brofi dros dro yn y Porth, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi penderfynu symud y ganolfan brofi er mwyn caniatáu i'r broses yma gael ei chynnal yn fwy effeithlon.
Canolfan brofi drwy ffenest y car fydd hi yng Nghwm Clydach, sy'n golygu y bydd ymwelwyr yn mynd yno yn eu cerbydau, gan gadw pellter diogel oddi wrth eraill a chaniatáu i bobl fynd adref ar unwaith i hunanynysu nes i ganlyniad y prawf ddod i law. Dylai pobl sy'n cael canlyniad positif am COVID-19 barhau i hunanynysu am 10 diwrnod.
RHAID i chi drefnu prawf cyn mynd i'r ganolfan brofi. DIM OND pobl sydd â symptomau Coronafeirws AR HYN O BRYD ddylai drefnu prawf: https://www.nhs.uk/conditions/coronavirus-covid-19/testing-and-tracing/get-a-test-to-check-if-you-have-coronavirus/
- Peswch newydd, parhaus
- Tymheredd uchel
- Colli/newid blas/arogl
Mae'r ganolfan brofi ar gael i drigolion Rhondda Cynon Taf yn unig. Er mwyn trefnu prawf, dilynwch y ddolen:
*Nodwch, bydd y ganolfan brofi ar agor rhwng 10.30am a 4.30pm
Wedi ei bostio ar Dydd Iau 10th Medi 2020