Skip to main content

#SiopaLleolRhCT - Gwneud ein rhan i gefnogi busnesau lleol

shop-RCT-1-WELSH

Wrth lansio ei ymgyrch #SiopaLleolRhCT, mae'r Cyngor yn gofyn i drigolion ymweld â busnesau gwych y stryd fawr pan fydd cyfyngiadau COVID-19 yn caniatáu. Ein busnesau lleol yw calon ein cymunedau. Mae ganddyn nhw gynnig unigryw ac amrywiol, ac maen nhw wedi aberthu cymaint yn ddiweddar i'n helpu ni i gyd i aros yn ddiogel.

Ers dechrau'r pandemig ym mis Mawrth 2020, mae Llywodraethau'r DU a Chymru wedi gofyn i fusnesau nad ydyn nhw'n hanfodol ledled y wlad i gau i atal lledaenu'r Coronafeirws am sawl cyfnod hir pan fo niferoedd y rhai â COVID-19 yn uchel. Ymatebodd masnachwyr lleol trwy gau neu addasu eu busnesau, gan ohirio eu bywoliaeth i gefnogi'r GIG ac i achub bywydau.

Mae'r cyfnod clo diweddaraf wedi bod mewn grym ers cyn y Nadolig, ac am fod nifer yr achosion bellach yn gostwng yn gyson, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod modd i bob manwerthwr nad yw'n hanfodol agor ei ddrysau'n raddol o ddydd Llun, 12 Ebrill.

Trwy ein hymgyrch newydd sy'n lansio heddiw, mae'r Cyngor yn gofyn i drigolion Siopa'n Lleol –  #SiopaLleolRhCT – yn ystod y Gwanwyn a'r Haf drwy fynd yn amlach i'n hardaloedd manwerthu yng nghanol ein trefi lleol a gwario arian yn lleol lle bynnag y bo hynny'n bosibl.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd y Cyngor yn cyhoeddi cynnwys fideo ar ei gyfrifon cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo'r neges am Siopa'n Lleol. Byddwn ni'n siarad â busnesau lleol am sut mae'r pandemig wedi effeithio arnyn nhw a pham ei bod hi'n werth dod i'r ardal manwerthu lleol a sut y bydd yn hanfodol wrth adfywio’r economi leol.

Mae ardaloedd manwerthu lleol yn cynnig canolbwynt ar gyfer gwasanaethau manwerthu a gwasanaethau allweddol, gan gynnwys cigyddion a gwerthwyr blodau, siopau DIY, gwerthwyr llysiau, siopau chwaraeon, caffis, poptai, siopau electronig, siopau trin gwallt, siopau dillad, tafarndai, bwytai a rhagor. Beth bynnag sydd ei angen arnoch chi, mae modd i chi ddod o hyd iddo yma yn Rhondda Cynon Taf.

Cadwch lygad ar ein cyfrifon Facebook ('Cyngor Rhondda Cynon Taf') a Twitter ('@CyngorRhCT') - a fydd yn arddangos ystod o gynnwys #SiopaLleolRhCT i hyrwyddo canol ein trefi - Aberdâr, Glynrhedynog, Llantrisant, Aberpennar, Pontypridd, Y Porth, Tonypandy a Threorci.

Meddai'r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter, Datblygu a Thai: “Mae pandemig COVID-19 wedi cyflwyno heriau enfawr i'n cymdeithas gyfan, ac yn rhan o hynny, cafodd busnesau nad ydyn nhw'n hanfodol eu taro galetaf. Bu'n rhaid iddyn nhw gau am wythnosau ar adegau allweddol i helpu i leihau cyfraddau COVID-19. Mae'r ymateb gan ein masnachwyr wedi bod yn wych. Maen nhw wedi cydnabod pwysigrwydd cau eu drysau er mwyn cadw eraill yn ddiogel, ac wedi gorfod aberthu'u gwaith.

“Felly, pan fydd y cyfyngiadau cenedlaethol diweddaraf yn dod i ben a phan fydd modd i bobl ddychwelyd i fusnesau nad ydyn nhw'n hanfodol ar 12 Ebrill, mae hi mor bwysig ein bod yn cefnogi ein masnachwyr lleol. Bydd y Cyngor yn hyrwyddo'r neges Siopa Lleol i gyfleu'r amrywiaeth anhygoel o siopau a gwasanaethau sydd ar gael yn ein cymunedau lleol. Mae gan bob un ei apêl unigryw ei hun.

“Mae'r Cyngor wedi cefnogi busnesau lleol dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda charfan arbennig yn helpu perchnogion busnesau i ddeall y cyfyngiadau diweddaraf a chael gafael ar amrywiaeth o gronfeydd a grantiau sydd ar gael iddyn nhw. Mae'r Cyngor wedi prosesu a thalu dros £75 miliwn o gymorth grant Llywodraeth Cymru i'n masnachwyr yn ystod y cyfnod anodd sydd ohoni.

“Mae’n newyddion da iawn y bod modd i fusnesau ddechrau masnachu wyneb yn wyneb unwaith eto, gyda mesurau cadw pellter cymdeithasol llym ar waith. Rydyn ni'n gofyn i drigolion lleol wneud eu rhan trwy siopa'n lleol mewn ffordd ddiogel er mwyn sicrhau dyfodol mwy disglair i fasnachwyr.”

Rydyn ni'n diolch i drigolion ymlaen llaw am bob cefnogaeth y mae modd i chi ei rhoi i helpu ein busnesau lleol ar hyn o bryd. Wrth ymweld â chanol ein trefi, cadwch lygad am arwyddion i nodi lle ddylech chi giwio a llwybrau sy'n sicrhau bod cerddwyr yn cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr. Dyma atgoffa'r cyhoedd bod rhaid iddyn nhw barhau i wisgo gorchudd wyneb y tu mewn ar bob adeg.

Wedi ei bostio ar 07/04/2021