Skip to main content

Cynllun lliniaru llifogydd ym Mharc y Pentre a Stryd Hyfryd

Pleasant Street, Pentre 2

Bydd y Cyngor yn cychwyn ar gynllun pellach i liniaru'r perygl o lifogydd yn y Pentre, trwy wella'r draenio er mwyn lleihau faint o falurion sy'n ymgasglu yn y cwrs dŵr a chreu cwter ychwanegol ar Stryd Hyfryd.

Bydd y cynllun yn cychwyn Ddydd Mercher, 3 Chwefror. Y cam cyntaf bydd gosod twll archwilio dalbwll newydd ym Mharc y Pentre, er mwyn lleihau'r perygl y bydd malurion yn ymgasglu yn y prif gwlfer a'r cwteri ychwanegol ar waelod Stryd Hyfryd. Bydd y gwaith yma'n para tua bythefnos. Wedi hynny, bydd gwaith pellach ar y cwteri yn y lleoliad yma yn parhau am wythnos.

Mae'r Cyngor wedi penodi Dee Plant Ltd yn gontractwr ar gyfer y gwaith yma. Nhw fydd yn gyfrifol am roi dwy ran y cynllun ar waith. Bydd y gwaith yn para tair wythnos ar y cyfan. Nid yw'r cynllun yn debygol o achosi llawer o aflonyddwch o gwbl. Bydd rhan gyntaf y gwaith yn digwydd yn y parc, a fydd ar agor yn ôl yr arfer. Bydd y gwaith ar Stryd Hyfryd yn digwydd mewn mannau penodol iawn ac nid oes angen cynllun rheoli traffig.

Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyfraniad o 85% wrth Lywodraeth Cymru er mwyn cyflawni'r gwaith yma, ac mae gweddill y cyllid yn dod o'r rhaglen Buddsoddiad RhCT.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: "Mae'r Cyngor wedi croesawu cyfraniad mawr gan Lywodraeth Cymru i helpu i gyflawni’r cynllun pwysig yma yn ardal Parc y Pentre a Stryd Hyfryd. Mae'n bleser gen i gadarnhau y bydd y gwaith yn dechrau ddydd Mercher.

"Y Pentre oedd un o'r ardaloedd a gafodd eu heffeithio fwyaf gan y llifogydd enbyd fis Chwefror diwethaf, ac mae lleihau'r perygl o lifogydd yn yr ardal yma yn y dyfodol yn parhau'n flaenoriaeth i'r Cyngor. Ym mis Medi 2020, bwriwyd ati gyda chynllun pwysig i osod ceg cwlfer newydd ar Heol Pentre mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru, yn dilyn archwiliadau manwl, clirio malurion a mesurau ystwythder er mwyn paratoi ar gyfer y gaeaf hwn. 

"Mae'r gwaith sydd ar ddod yn ychwanegu at y rhestr o gynlluniau lliniaru llifogydd sydd yn eu lle mewn sawl lleoliad penodol yn Rhondda Cynon Taf. Dechreuodd gwaith yn Nheras Granville yn Aberpennar yr wythnos diwethaf, tra bod cwlferi wedi'u cryfhau yn Rhydfelen yn ddiweddar. Ers y Flwyddyn Newydd, mae gwaith wedi dechrau mewn dau leoliad ar yr A4059 yng Nghwm Cynon – yng Nghwm-bach, ac o Drecynon i Ben-y-waun – tra bod gwaith yn parhau yn Lôn y Parc ger Parc Aberdâr.

"Mae'r gwaith y mis hwn yn y Pentre yn annhebygol o achosi unrhyw aflonyddwch i'r gymuned leol, a fydd dim effaith ar oriau agor y parc. Hoffwn i ddiolch i breswylwyr am eu cydweithrediad wrth i'r gwaith pwysig yma gael ei gyflawni."

Wedi ei bostio ar 02/02/2021