Skip to main content

 Mae Cyngor RhCT yn Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Angela Bebb IWD

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni (8 Mawrth), mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dathlu ei holl weithwyr ac aelodau benywaidd ac yn taflu goleuni ar hawl menyw i 'ddewis herio'.

Thema'r ymgyrch ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2021 yw 'Dewis Herio''. Mae byd sydd wedi'i herio yn fyd effro. Ac o her daw newid. Felly gadewch i ni i gyd #DewisHerio #ChooseToChallenge.

Mae bron i 75% o staff y Cyngor yn fenywod ac rydyn ni'n gweithio'n galed i sicrhau bod cydraddoldeb rhywiol yn bodoli trwy'r gweithlu i gyd ac mae ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi lleihau bob blwyddyn am y 3 blynedd diwethaf. Rydyn ni wedi cyflawni cydbwysedd rhwng y rhywiau yn ein Cabinet gyda 4 deiliad Portffolio benywaidd, tra bod 34 o'r 75 Aelod Etholedig yn fenywod.

Ddydd Iau, 4 Mawrth, cynhaliodd y Cyngor achlysur rhithwir i staff ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, a gafodd ei agor gan Ddirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Maureen Webber. Roedd yr achlysur yn trafod nifer o bynciau gan gynnwys stereoteipio, gwahaniaethu a phrofiadau menywod yn y gwaith.  Daeth nifer o bobl i'r achlysur, lle'r oedd y siaradwr gwadd Georgina Gilbert, diffoddwr tân gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru sydd â thros ugain mlynedd o brofiad, yn adrodd ei stori ac yn cyflwyno sesiwn ar chwalu rhwystrau.  Mae Georgina hefyd yn gyd-sylfaenydd Antarctic Fire Angels ac mae'n siaradwr ysbrydoledig ar gyfer Ordinary Extraordinary.

Mae Chloe Davies, 20 oed o Aberdâr, yn un o weithwyr benywaidd Cyngor RhCT sy'n annog menywod i ddewis herio. Mae Chloe yn rhan o griw Gofal y Strydoedd a chasglu Sbwriel ac Ailgylchu yng Nghwm Cynon.  Ymunodd Chloe â'r criw ym mis Gorffennaf yng nghanol y pandemig gan ei bod eisiau helpu i wneud gwahaniaeth.

Cyn hynny, roedd Chloe wedi helpu yn y Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned pan ailagorodd y safleoedd ym mis Mai ac roedd hi'n awyddus i barhau i helpu trigolion i ailgylchu.  Mae Chloe yn angerddol am ei swydd ac wedi cynefino'n dda yn rhan o'r garfan casglu.

Un o fanteision y swydd i Chloe yw ei bod hi'n cael bod allan o'r tŷ ac mae pob diwrnod yn wahanol. Mae Chloe yn chwarae hoci'n frwd dros Ddowlais ac mae'r swydd yn ei helpu i gynnal ei lefelau ffitrwydd - ar ddiwrnod cyffredin mae Chloe yn cerdded 40,000 o gamau, sy'n cyfateb i oddeutu 16 milltir!

Meddai Chloe: “Roeddwn i'n falch iawn o ymgymryd â’r rôl yma ac mae'n llawer o hwyl. Mae wedi fy helpu i gyfuno fy angerdd am yr amgylchedd a fy angerdd am ffitrwydd. Mae'r garfan yn wych ac mae pob diwrnod yn wahanol. Efallai bod llawer o ferched yn credu nad ydy'r swydd yma'n addas iddyn nhw, ond dewiswch herio'ch hunan a pheidiwch â'i ddiystyru.   Mae'n waith caled, ond rydw i wrth fy modd ac yn gobeithio y byddaf i'n cyflawni'r rôl am amser hir yn y dyfodol.”

Mae Angela Bebb yn 55 oed o Ben-y-bont ar Ogwr, ac fe ymunodd hi â'r Cyngor yn 2016. Mae hi wedi bod yn dewis herio drwy gydol ei gyrfa ac wedi cyflawni nifer o swyddi sy'n cael eu hystyried yn addas ar gyfer dynion ers dros 30 mlynedd. Roedd Angela yn ofalwr am 26 mlynedd cyn ymuno â Chyngor RhCT fel Ceidwad Parciau. Erbyn hyn, Angela yw'r gofalwr tir dynodedig ym Mharc Pentre ac mae'n hynod angerddol am ei swydd. Mae Angela wedi bod yn ei swydd bresennol ers 3 blynedd ac mae'n ei ddisgrifio fel y 'swydd orau a gafodd erioed'. A hithau'n ofalwr tir, mae Angela yn gyfrifol am dorri'r gwair, cynnal a chadw'r lawnt fowlio a chaeau 3G, torri'r gwrychoedd, rhoi gwrtaith ar y pridd a gwaith cynnal a chadw cyffredinol yr ardal bob dydd.

Meddai Angela: “Pan fyddaf i'n dweud wrth bobl beth rwy'n ei wneud, weithiau maen nhw'n synnu, ond dywedaf wrth unrhyw berson, dyn neu fenyw, bod modd i unrhyw un ei gyflawni. Efallai y byddwch chi'n synnu'ch hun ac efallai y byddwch chi'n ennill y swydd rydych chi wedi bod eisiau erioed. Fedra i ddim gofyn am ragor - rwy'n cael bod yn yr awyr agored ac mae'r gwaith rwy'n ei wneud yn hynod werth chweil ac yn rhoi llawenydd i lawer o bobl. Mae'r swydd yn fy nghadw'n hynod o ffit, mae'n waith caled, ond rwy'n falch iawn ohoni. ”

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor, gyda chyfrifoldeb am faterion Cydraddoldeb ac Amrywioldeb: "Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn caniatáu inni ganolbwyntio ar fod yn fenyw a'r pethau anhygoel rydyn ni'n eu gwneud bob dydd.

"Dydyn ni ddim bob amser yn caniatáu amser i'n hunain i feddwl ond hoffwn i bawb gymryd yr amser i feddwl am y gwahaniaeth y mae menywod yn ei wneud, i'ch teulu, ffrindiau, cydweithwyr a chymunedau.

"Dewch i ni ddathlu menywod, menywod dewr ym mhobman sy'n ysbrydoli eraill ac yn ceisio gwneud y byd yn lle gwell.

“Rydyn ni'n ffodus bod cynifer o fenywod cryf yn cael eu cyflogi yn y Cyngor sydd, fel Chloe ac Angela, yn 'dewis herio' ac yn dangos i ferched bod modd i chi gyflawni'ch potensial llawn ym mhopeth rydych chi'n dewis ei wneud. Rwy'n falch o fod yn rhan o Gabinet sydd â charfan gytbwys o fenywod a dynion, ac mae gan RCT ddau gynrychiolydd seneddol benywaidd i'w brolio hefyd. Gyda'n gilydd mae modd i ni i gyd ddewis herio a helpu i barhau i newid ein byd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.” 

Wedi ei bostio ar 08/03/2021