Skip to main content

Cynlluniau buddsoddi ar gyfer Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref

Llanilltud Faerdref Primary artist impression - the community can now view initial investment plans for the school

Mae modd gweld y cynigion cychwynnol i ddefnyddio cyllid Ysgolion yr 21ain Ganrif er mwyn darparu adeilad newydd sbon ar gyfer Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref erbyn Hydref 2023 ar-lein. Bydd modd eu gweld nhw yn y gymuned dros y pedair wythnos nesaf hefyd.

Gallai'r ysgol yn Llanilltud Faerdref elwa o gyllid sylweddol yn rhan o Raglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru. Mae modd i drigolion gyflwyno sylwadau ynglŷn â chynigion i adeiladu'r adeilad ysgol newydd ar y safle presennol. Mae'r ymgynghoriad yn dod i ben ar 24 Tachwedd.

Bydd y broses o gyflwyno cais am gyllid yn cael ei chwblhau yn y gwanwyn, 2022, ynghyd â chynlluniau tebyg ar gyfer Ysgol Gynradd Pont-y-clun ac Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi. Mae hyn ar ôl i'r Cabinet gytuno i gyflwyno achos busnes cychwynnol i sicrhau cyllid Model Buddsoddi Cydfuddiannol ar gyfer y tri phrosiect. Dyma'r llwybr cyllid refeniw ar gyfer Band B Rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif.

Mae pob un o'r ysgolion o fewn ardal sydd wedi gweld llawer o dai newydd yn cael eu hadeiladu mewn cyfnod byr ac mae angen buddsoddi er mwyn eu gwneud yn gwbl hygyrch ac i gyrraedd safon yr 21ain Ganrif.

Yn achos Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref, byddai'r buddsoddiad arfaethedig yn darparu adeilad un llawr newydd yn lle adeilad cyfredol yr ysgol a'r ystafelloedd dosbarth dros dro sydd mewn cyflwr gwael. Byddai'r cynllun yn gweithredu dull Carbon Sero-Net ac yn cynyddu capasiti'r ysgol i 240 o ddisgyblion yn ogystal â 30 o leoedd dosbarth meithrin - a hynny er mwyn cwrdd â'r galw a ragwelir yn lleol.

Byddai'r adeilad newydd yn darparu amgylchedd dysgu bywiog sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif i staff a disgyblion, tra bydd modd i'r gymuned ehangach fwynhau rhai o'r cyfleusterau eraill hefyd. Byddai'r datblygiad ehangach yn darparu Ardal Gemau Aml-ddefnydd â dau gwrt, cae chwarae newydd a maes parcio.

Mae'r ymgynghoriad cyfredol yn cael ei gynnal gan y Cyngor ar y cyd â'i bartner WEPCo Ltd, sy'n gwahodd y gymuned i gymryd rhan. Mae'r ymgynghoriad yma'n cael ei gynnal cyn cyflwyno'r cais, fel bod modd defnyddio’r holl adborth sy'n cael ei gyflwyno i lywio'r cynlluniau cyn i'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fynd ati i drafod y cais yn ffurfiol.

Mae tudalen we bwrpasol bellach ar gael ar gyfer yr ymgynghoriad

Mae modd i'r cyhoedd fynd i'r dudalen yma i weld rhagor o wybodaeth, gan gynnwys dogfennau cynllunio drafft a chynlluniau lleoliad safle ar gyfer yr adeilad newydd. Mae modd cyflwyno sylwadau drwy lythyr gan ddefnyddio'r cyfeiriad sydd ar y dudalen we, neu drwy e-bost: YsgolGynraddLlanilltudFaerdref@arup.com

Mae modd gweld y cynlluniau yng Nghanolfan Dysgu Gydol Oes Garth Olwg (Heol Sant Illtyd, Pentre'r Eglwys, CF38 1BT) drwy gydol yr ymgynghoriad. Bydd achlysur 'galw heibio' i'r cyhoedd yn cael ei gynnal hefyd, fel bod modd i drigolion weld y cynigion, cael rhagor o wybodaeth a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gyda nhw. Bydd y Cyngor yn rhoi gwybod am y trefniadau ar gyfer yr achlysur yma maes o law.

Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant:  "Mae'r Cyngor bellach wedi dechrau cynnal gwaith ymgysylltu â'r cyhoedd mewn perthynas â'i gynlluniau Model Buddsoddi Cydfuddiannol arfaethedig. Y gobaith yw defnyddio cyllid sylweddol Ysgolion yr 21ain Ganrif i ddarparu cyfleusterau newydd ar gyfer ysgolion yn Llanilltud Faerdref, Llantrisant a Phont-y-clun. Mae modd gweld y cynlluniau cychwynnol ar gyfer Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref yng Nghanolfan Dysgu Gydol Oes Garth Olwg - mae modd i drigolion gymryd rhan ar-lein, hefyd.

“Mae sicrhau cyfleusterau addysg newydd sbon ar gyfer rhagor o ddisgyblion yn parhau i fod yn flaenoriaeth ar gyfer y Cyngor, er mwyn rhoi rhagor o gyfleoedd i bobl ifainc ym myd addysg - gan wella cyfleusterau addysg yn rhan o'r buddsoddiad hefyd. Dechreuodd gwaith ar y ddau gynllun diweddaraf yn Ysgol Rhydywaun ac Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr dros yr haf, a hynny er mwyn cyflawni cynlluniau gwerth £12.1miliwn a £4.5miliwn yn 2022.

“Mae sawl cynllun arall hefyd yn cael eu cynllunio ledled Rhondda Cynon Taf. Yn ddiweddar, mae'r Cabinet wedi cytuno i fwrw ymlaen â chynigion newydd i ddefnyddio cyllid ychwanegol gwerth £85miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau yn ardaloedd Llanhari, Glyn-coch, Cymer, Pen-rhys, Llanilltud Faerdref a Thonysguboriau, ynghyd ag ysgol arbennig newydd. Mae hyn ar ben buddsoddiad gwerth £55miliwn ar gyfer sawl cymuned ledled ardal Pontypridd erbyn 2024.

"Rydyn ni'n annog pob trigolyn sydd â diddordeb yn y cynlluniau i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar gyfer Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref cyn y dyddiad cau fis nesaf, sef 24 Tachwedd. Dyma gyfle i'r gymuned ddysgu rhagor a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gyda nhw. Mae cyfyngiadau Covid-19 bellach yn caniatáu i swyddogion drefnu achlysur wyneb yn wyneb lle bydd modd i drigolion drafod unrhyw agwedd ar y cynlluniau. Bydd y Cyngor yn cyhoeddi manylion yr achlysur yma cyn bo hir."

Wedi ei bostio ar 27/10/21