Skip to main content

Gwaith i sicrhau dyfodol pont sy'n rhan o'r A4058 drwy Ystrad

Bodringallt Bridge 1

Cyn bo hir bydd y Cyngor yn gwneud gwaith sylweddol ar Bont Bodringallt, sy'n rhan o'r A4058 yn Ystrad. Bydd y Cyngor yn sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu ar y brif ffordd drwy gydol y cynllun.

Bydd y cynllun yn llenwi'r gwagle o dan y bont fel na fydd dec y bont yn gweithredu fel elfen strwythurol mwyach. Law yn llaw â hyn, bydd gwaith ychwanegol yn ailbroffilio llethr yr arglawdd cyfagos, yn gosod system draenio priffordd, yn ail-baentio’r parapet metel ac yn tynnu llystyfiant oddi ar bob wal.

Bydd y wal o waith maen a'r waliau ar yr ochrau hefyd yn cael eu hail-bwyntio yn rhan o'r cynllun, tra bydd y wal orllewinol yn cael ei dymchwel a'i hailadeiladu.

Bydd y cynllun 12 wythnos yn dechrau ddydd Mercher, 19 Ionawr, a Centregreat Ltd yw contractwr penodedig y Cyngor i wneud y gwaith. Mae'r cynllun yn cael ei ariannu gan Raglen Gyfalaf y Priffyrdd y Cyngor.

Does dim angen i'r contractwr gau lôn/ffordd ar yr A4058 Stryd William i wneud y gwaith, ond mae'n debygol y bydd angen culhau'r lôn er mwyn sicrhau diogelwch. Bydd yr arhosfan bysiau ger Heol y Twyn yn cael ei symud dros dro ar gyfer rhan o'r cynllun – dylai defnyddwyr bysiau ddilyn yr arwyddion perthnasol sydd yn eu lle.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Bydd y cynllun yma sydd ar y gweill ar gyfer y brif ffordd drwy Ystrad yn sicrhau gwelliannau sefydlogrwydd i Bont Bodringallt, ynghyd â chyfres o waith atgyweirio pellach i ddiogelu’r strwythur at y dyfodol. Caiff y cynllun ei ariannu gan Raglen Gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2021/22, gan ddefnyddio dyraniad penodol ar gyfer Strwythurau Priffyrdd.

“Mae ein hymrwymiad i flaenoriaethu buddsoddi yn y maes yma'n parhau – mae’r Cyngor yn gyfrifol am fwy na 1,500 o waliau, cwlferi a phontydd sy’n cynnal y rhwydwaith ffyrdd ar draws Rhondda Cynon Taf. Mae cynllun ar wahân sy'n canolbwyntio ar yr A4054 Heol Caerdydd yn Ffynnon Taf, a hynny er mwyn atgyweirio wal barapet a wal gynnal, hefyd yn dechrau ddydd Mercher, diolch i'r Rhaglen Gyfalaf.

“Dydyn ni ddim yn rhagweld y bydd y cynllun yn Ystrad yn achosi llawer o aflonyddwch i’r gymuned – er y bydd safle bws yn cael ei symud dros dro ac mae’n bosibl y bydd lonydd cerbydau ar y bont, uwchben ardal y gwaith, yn cael eu culhau. Diolch ymlaen llaw i breswylwyr, defnyddwyr y ffordd a busnesau am eu cydweithrediad."

Wedi ei bostio ar 18/01/22