Mae cyfres o Lwybrau Cerdded Jiwbilî Platinwm y Frenhines yn cael eu cyflwyno ar hyd a lled Rhondda Cynon Taf yn 2022, a hynny i ddathlu achlysur arbennig Jiwbilî Platinwm y Frenhines.
Bydd y Cyngor yn annog ei drigolion ac ymwelwyr i'r ardal i roi cynnig ar Lwybrau Cerdded Jiwbilî Platinwm y Frenhines a dysgu am fywyd a theyrnasiad Ei Mawrhydi y Frenhines.
I ddechrau ar eich siwrnai, sganiwch y cod QR ar eich ffon symudol!
Mae Llwybrau Cerdded Jiwbilî Platinwm y Frenhines ym Mharc Gwledig Cwm Dâr yn Aberdâr; Parc Coffa Ynysangharad ym Mhontypridd; Amgueddfa Pontypridd a chanol y dref; a chanol tref Tonypandy.
Llwybr Cerdded Jiwbilî Platinwm y Frenhines - Pontypridd
Llwybr Cerdded Jiwbilî Platinwm y Frenhines - Parc Gwledig Cwm Dâr
Llwybr Cerdded Jiwbilî Platinwm y Frenhines – Tonypandy
Bydd y Llwybrau yma ar gael hyd at 12 Mehefin ac yn cynnig profiad unigryw i'r cyhoedd geisio dod o hyd i saith cymeriad o Balas Buckingham sy'n ymweld â'r ardal leol. Pan fyddwch chi'n dod o hyd i'r cymeriadau yma yn eich ardal chi, sganiwch y codau QR unigryw i wrando ar y stori ac ateb cwestiynau i bennu beth fydd y cam nesaf.
Bydd pob cymeriad yn adrodd hanes degawd gwahanol o deyrnasiad Ei Mawrhydi. Ar ôl i chi gasglu’r saith stamp, byddwch chi'n derbyn gwobr a bydd modd ichi dynnu hunluniau gyda bathodynnau digidol a rhannu'r lluniau ar eich cyfryngau cymdeithasol.
Bydd Gŵyl y Banc hirach ym Mehefin yn rhoi cyfle i gymunedau a thrigolion Rhondda Cynon Taf ymuno ag eraill ledled y Deyrnas Unedig a'r Gymanwlad i ddathlu'r garreg filltir hanesyddol yma.
Ar 6 Chwefror 2022, Ei Mawrhydi y Frenhines oedd y Frenhines Brydeinig gyntaf i ddathlu Jiwbilî Platinwm, gan nodi 70 mlynedd o wasanaeth i bobl y Deyrnas Unedig, y teyrnasoedd a'r Gymanwlad.
Bydd Partïon Stryd yn cael eu cynnal ledled y Fwrdeistref Sirol dros benwythnos Gŵyl y Banc a bydd baneri'r Jiwbilî'n cael eu chwifio mewn lleoliadau amrywiol. Bydd Ffagl Jiwbilî Platinwm y Cyngor yn Rock Grounds, Aberdâr hefyd wedi'i goleuo. Bydd theatrau ac atyniadau cyhoeddus Cyngor Rhondda Cynon Taf hefyd wedi'u goleuo trwy gydol dathliadau y Jiwbilî Platinwm.
Wedi ei bostio ar 18/05/22