Skip to main content

Cyllid sylweddol ar gyfer camau nesaf Cynllun Lliniaru Llifogydd Treorci

Treorchy FAS grid - Copy

Mae cyllid gwerth bron i £1m wedi'i sicrhau gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu camau nesaf Cynllun Lliniaru Llifogydd sylweddol Treorci – a hynny er mwyn symud ymlaen â dyluniad opsiwn a ffefrir a rannwyd yn flaenorol gyda thrigolion.

Yn yr hydref y llynedd, cynhaliodd y Cyngor ymarfer ymgysylltu a rannodd gynigion i fuddsoddi'n sylweddol mewn rhagor o amddiffynfeydd rhag llifogydd i'r gymuned – rhaglen gwerth miliynau o bunnoedd i wella seilwaith lleol a gosod lefel o amddiffyniad rhag llifogydd ar gyfer storm unwaith mewn 100 mlynedd. Bydd y cynllun yn dal dŵr glaw o ddalgylchoedd uchaf ac yn ei gludo trwy system cwlfer mewn lleoliad newydd ar lefel y tir. Bydd hefyd yn cyflwyno nodweddion storio ar ben tir a nodweddion rheoli perygl llifogydd naturiol yn y dalgylch uchaf.

Treorci oedd un o'r cymunedau gafodd ei heffeithio fwyaf yn ystod Storm Dennis ym mis Chwefror 2020 – ac mae adroddiad Adran 19, a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr ym mis Gorffennaf 2021, wedi helpu i ddeall achosion y llifogydd. Mae'r cynigion ar gyfer y Cynllun Lliniaru Llifogydd yn y dyfodol ar ben y gwaith sylweddol sydd eisoes wedi'i gynnal yn Nhreorci ers y storm heb ei thebyg. Mae crynodeb o'r gwaith yma i'w weld ar waelod y diweddariad yma.

Mae hyn yn cynnwys gwaith lliniaru llifogydd pwysig a gafodd ei gynnal ar dir i'r de o Fynwent Treorci yn 2022 – cam cychwynnol o waith sydd wedi cynnal a chadw a gwella nifer o asedau cwrs dŵr o amgylch pen uchaf Ffordd y Fynwent a Stryd y Golofn. Roedd yn cynnwys ailadeiladu sianeli, gosod leinin mewn cwlferi a'u hatgyweirio, a gwella mynediad i helpu i gynnal a chadw'r ardal yn y dyfodol. 

Mae'r Cyngor bellach wedi cael cyllid gwerth £950,000 o Raglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru er mwyn helpu i gyflawni'r Achos Busnes Llawn a'r cam dylunio manwl.

Bydd y cyllid sylweddol yma'n galluogi'r Cyngor i fwrw ymlaen â cham dylunio technegol y cynllun dros yr 20 mis nesaf. Yn y bôn, bydd y gwaith yma'n datblygu'r dyluniad a rannwyd gyda'r gymuned yn yr haf y llynedd. Y camau cyntaf fydd penodi ymgynghorwyr allanol, a dechrau ar y gwaith arolygu cychwynnol. 

Mae modd i drigolion gael yr wybodaeth ddiweddaraf trwy grwpiau cyswllt lleol fydd yn cael eu sefydlu gyda chynrychiolwyr o'r gymuned. Hefyd, bydd tudalen bwrpasol ar wefan y Cyngor yn cael ei diweddaru'n rheolaidd. Mae modd gweld y dudalen we yma.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Ar ôl cael gwybodaeth trwy'r ymarfer ymgysylltu pedair wythnos o hyd gyda'r gymuned yn yr hydref y llynedd, mae swyddogion wedi parhau i ddatblygu Cynllun Lliniaru Llifogydd sylweddol Treorci – ac rwy'n falch bod cyllid gwerth £950,000 bellach wedi'i sicrhau gan Lywodraeth Cymru i gyflawni'r achos busnes llawn a chamau dylunio manwl.

“Mae'r Cyngor wedi cyflymu ei fuddsoddiad i ddatblygu a chyflawni mesurau lliniaru llifogydd wedi'u targedu mewn cymunedau lleol ers Storm Dennis, ac rydyn ni'n parhau i groesawu cefnogaeth bwysig gan Lywodraeth Cymru yn y maes yma. Cafodd dros £4.48 miliwn ei sicrhau yn rhan o sawl rhaglen cyllid yn 2024/25 – sy'n cael ei ddefnyddio ar y cyd â chyllid cyfatebol y Cyngor drwy gydol y flwyddyn. Mae cyllid penodol i fwrw ymlaen â Chynllun Lliniaru Llifogydd Pentre, Cynllun Lliniaru Llifogydd Teras Arfryn yn Tylorstown, a Chynllun Lliniaru Llifogydd Treorci, wedi'i gadarnhau'n ddiweddar gan Lywodraeth Cymru.

“Mae'r Cyngor hefyd wedi cyhoeddi pob un o'r 19 o adroddiadau Adran 19 i ymchwilio i achosion llifogydd yn ystod Storm Dennis, sy'n helpu i ddylunio mesurau amddiffyn. Ymgymerwyd â rhaglen atgyweirio enfawr ar gyfer strwythurau hefyd dros nifer o flynyddoedd ers Storm Dennis, gyda rhaglen eleni yn cynnwys Pont Droed Castle Inn yn Nhrefforest, Y Bont Wen ym Mhontypridd, a Phont Droed y Bibell Gludo yn Abercynon – gan ddefnyddio cyllid gwerth £3.61 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

“Bydd y cyllid newydd ar gyfer Cynllun Lliniaru Llifogydd Treorci yn golygu y bydd modd penodi ymgynghorwyr allanol a dechrau ar y gwaith arolygu cychwynnol, a hynny'n rhan o broses ehangach i symud y cam dylunio technegol yn ei flaen. Bydd y Cyngor yn diweddaru tudalen we bwrpasol ar ei wefan, fel y gall trigolion gael gwybod rhagor a dilyn y gwaith dros y misoedd i ddod.”

Mae'r gwaith canlynol wedi cael ei gynnal yn Nhreorci ers Storm Dennis: 

  • Arolygu oddeutu 1 cilomedr o gyrsiau dŵr cyffredin a seilwaith draenio priffyrdd. Mae hyn wedi'i fapio a'i adolygu, gan arwain at waith glanhau ac atgyweirio wedi'u targedu. Mae oddeutu 20 tunnell o falurion wedi cael eu clirio o asedau yn dilyn Storm Dennis. 
  • Cwblhau achos busnes ar gyfer Ardal Perygl Llifogydd Strategol Cwm Rhondda Uchaf. Mae hyn wedi cynnwys prosiect peilot i nodi a chwblhau nifer o gynlluniau 'budd cyflym' i reoli perygl llifogydd lleol sydd wedi helpu i gyflawni gwaith pellach yn dilyn Storm Dennis. 
  • Cwblhau Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Cynllun Lliniaru Llifogydd Treorci. Cafodd hwn ei ddefnyddio i sicrhau cyllid ar gyfer cam dylunio manwl yr Achos Busnes Llawn, er mwyn parhau i ddatblygu'r prosiect. 
  • Cwblhau gwaith sylweddol yn rhan o Waith Cam 1a Treorci. Roedd y prosiect yma'n cynnwys gwelliannau i'r blaenfuriau a thyllau archwilio, leinio strwythurol a gwella rhwydweithiau cwlfer a'r sianeli agored. Cafodd y gwaith yma ei gwblhau yn ystod 2022. 
  • Cwblhau prosiect atal llifogydd mewn eiddo dros dro ar gyfer yr eiddo hynny yr ystyrir eu bod mewn perygl mawr o gael llifogydd. Roedd y prosiect yma'n cynnwys benthyg offer allweddol megis llifddorau, tyllau aer ac aqua sacs er mwyn lliniaru effeithiau stormydd pellach yn y gymuned wrth i'r Cynllun Lliniaru Llifogydd ehangach gael ei ddatblygu. 
  • Gosod unedau telemetreg o bell ychwanegol mewn lleoliadau allweddol yn y gymuned. Mae'r gwaith wedi darparu unedau TCC a synwyryddion dŵr er mwyn helpu i fonitro llif dŵr a chroniad malurion. Mae hyn yn helpu gyda gwaith cynnal a chadw a gweithgareddau ymateb yn ystod stormydd.
Wedi ei bostio ar 25/09/2024