Mae Siôn Corn wrthi'n dadlwytho'i ogof a bydd yn hedfan i ganol ein trefi eleni gan ddod â llond sach o hwyl gydag ef!
Bydd carfan achlysuron Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynorthwyo Siôn Corn unwaith yn rhagor ac maen nhw'n falch o gynnal achlysuron y Nadolig yng nghanol y trefi canlynol:
29 Tachwedd
3pm – 6.30pm
|
Glynrhedynog, Maes Parcio Stryd y Leimwydden
|
30 Tachwedd
12pm – 5pm
|
Tonypandy, Maes Parcio Stryd De Winton
|
5 Rhagfyr
3pm – 6.30pm
|
Porth, Maes Parcio Plaza'r Porth
|
6 Rhagfyr
3pm – 6.30pm
|
Llantrisant, Maes Parcio Heol Gwaun Rhiw'r Perrai
|
7 Rhagfyr 12pm - 5pm
|
Aberpennar, Maes Parcio Stryd Henry
|
Mae pob ymdrech wedi'i wneud er mwyn sicrhau bod yr achlysuron Nadoligaidd yma yn fforddiadwy i drigolion Rhondda Cynon Taf a bydd tocynnau ar gael am £1 yr un ar y diwrnod i'w defnyddio ar gyfer pob gweithgaredd. Bydd angen 1 tocyn fesul plentyn ar gyfer pob gweithgaredd, ac eithrio Ogof Siôn Corn. Bydd angen 2 docyn ar gyfer y gweithgaredd yma a bydd yn cynnwys anrheg gan Siôn Corn.
Bydd digonedd o hwyl Nadoligaidd ar gael, gan gynnwys:
- Glôb Eira Enfawr - camwch i mewn i'r eira ar gyfer y llun Nadoligaidd perffaith!
- Llawr Sglefrio Synthetig - digonedd o hwyl yn sglefrio i'r plant a'r oedolion
- Ffair Bleser i Blant (3 reid)
- Ogof Siôn Corn - dewch i gwrdd â Siôn Corn a derbyn eich anrheg Nadolig gyntaf.
Bydd canol pob tref hefyd yn cynnig adloniant i blant a pheiriannau eira er mwyn rhoi dechrau go iawn i dymor yr Ŵyl!
Bydd canol trefi Pontypridd, Aberdâr a Threorci hefyd yn dathlu'r Nadolig gydag achlysuron yng nghanol y trefi a byddan nhw'n derbyn cymorth ariannol gan y Cyngor er mwyn eu cynnal.
Dilynwch @whatsonrct ar Facebook lle bydd yr wybodaeth mewn perthynas â'r achlysuron yma yn cael ei rhannu.
Beth am fwynhau hwyl yr Ŵyl drwy ddod i gynifer o achlysuron canol tref ag y dymunwch chi? Cofiwch fod canol ein trefi yn lleoedd gwych i fwyta a siopa, mae modd i chi wneud yn fawr o'ch ymweliad!
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:
Gall y Nadolig fod yn gyfnod anodd i nifer o ystyried y pwysau ariannol sydd ynghlwm ag ef, felly rydyn ni'n parhau i gynnig achlysuron canol tref cost isel sy'n cynnig llwyth o hwyl. Mae digon o adloniant ar gael, ac wrth gwrs, bydd busnesau a bwytai canol ein trefi ar agor hefyd felly galwch heibio, mwynhewch a siopwch yn lleol dros gyfnod y Nadolig.
Am y newyddion a gwybodaeth ddiweddaraf am yr achlysuron yma, dilynwch dudalen 'Be'sy mlaen' RhCT ar Facebook ac "X".
Wedi ei bostio ar 27/09/2024