Skip to main content

Ogof Siôn Corn yn dychwelyd i Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda

Untitled design (39)

Antur Nadoligaidd hudol ar gyfer teuluoedd a theithiau ysgol! 

Ydych chi'n clywed sŵn clychau? Mae Ogof Siôn Corn yn ôl - ac mae'n fwy hudol nag erioed! Rhwng 22 Tachwedd a 24 Rhagfyr, bydd Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn cael ei thrawsnewid yn lleoliad Nadoligaidd lle bydd modd i deuluoedd a grwpiau ysgolion fynd ar antur dwymgalon er mwyn dod o hyd i Siôn Corn yn nyfnderoedd y pwll glo. Mae llawer o bethau’n digwydd eleni, gan gynnwys: 

  • Sesiynau Stori gyda Siôn Corn newydd sbon – bydd sesiynau Cymraeg, Saesneg ac ADY ar gael
  • Teithiau Ysgolion 
  • Sesiynau ADY yn Ogof Siôn Corn 

Mae manylion llawn wedi'u nodi isod. 

Ogof Siôn Corn 
Ymunwch â glowyr yr ogof ar daith a fydd yn llawn rhyfeddodau a chyffro. 
Ewch i ddyfnderoedd Ogof Siôn Corn, lle byddwch chi'n cwrdd â rhagor o lowyr yr ogof a dod o hyd i syrpreisys ar hyd y ffordd. Pan fyddwch chi'n cyrraedd yr ogof, bydd pawb eisiau gwybod ateb y cwestiwn pwysig yma – a ydy Siôn Corn yno?

Mae pris tocyn yn cynnwys:

  • Antur hudol wedi'i goleuo drwy Ogof Siôn Corn  
  • Ymweld â Siôn Corn yn ei ogof
  • Bydd pob plentyn yn derbyn cloch hudol arbennig gan Siôn Corn ei hun, cyn mynd i'r Siop Deganau i'w chyfnewid am anrheg. 
  • Profiad i'w gofio – Gwenwch! Ewch i gael llun wedi'i dynnu o'ch teulu gyda Siôn Corn!  Bydd modd prynu lluniau ymlaen llaw neu ar y diwrnod, gydag amrywiaeth o opsiynau argraffu ar gael. 

 Nodwch: Bydd teithiau'n cynnwys nifer o grwpiau felly byddwch chi'n rhannu'ch ymweliad â Siôn Corn yn ei ogof gyda gwesteion eraill! 

Stori gyda Siôn Corn 

Ymunwch â Siôn Corn ei hun ac un o lowyr yr ogof ar gyfer sesiwn adrodd stori glyd yn llawn hwyl yr ŵyl. Bydd sesiynau ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Bydd sesiynau i blant ag ADY gyda llai o bobl ac amgylchedd tawelach ar gael hefyd. 

Mae pris tocyn yn cynnwys:

  • Ymweld â Siôn Corn yn ei ogof
  • Stori Nadoligaidd hyfryd wedi'i hadrodd gan un o lowyr yr ogof.
  • Cloch hudol i'w chyfnewid yn y Siop Deganau
  • Taith i'r Siop Deganau, lle bydd modd i blant ddewis eu hanrheg

 
Bydd cyfle hefyd i dynnu llun Nadoligaidd gyda Siôn Corn, a bydd modd prynu lluniau ymlaen llaw neu ar y diwrnod.  

Nodwch: Dydy sesiynau Stori gyda Siôn Corn ddim yn cynnwys taith lawn Ogof Siôn Corn. 

Teithiau Ysgolion  

Mae modd i ysgolion drefnu taith yn ystod yr wythnos rhwng 10am a 2pm – dyma daith addysgol Nadoligaidd wych! 
Mae modd i ysgolion drefnu taith drwy ffonio 01443 682036. 

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:   

Rydyn ni'n falch iawn o groesawu teuluoedd ac ysgolion yn ôl i Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda ar gyfer Ogof Siôn Corn 2025. Mae'r achlysur poblogaidd yma'n parhau i gynnig profiad hudol i blant o bob oed, gan gyfuno storïau Nadoligaidd, antur ryngweithiol, a llawenydd cwrdd â Siôn Corn. Gydag elfennau newydd, gan gynnwys sesiynau stori a sesiynau tawelach i blant ag ADY, rydyn ni'n falch o wneud dathliad eleni yn fwy cynhwysol a hudol nag erioed.

Oriau Agor

  • Ogof Siôn Corn.  
    22 Tachwedd tan 24 Rhagfyr, 10am – 8pm 
    Noswyl Nadolig: 9am – 3pm  
    Sesiynau ADY, 8a 9 Rhagfyr, 4pm – 6pm 
  • Stori gyda Siôn Corn. Yn ystod yr wythnos yn unig, 24 Tachwedd – 18 Rhagfyr, 3pm. 

 Prisoedd Ogof Siôn Corn ar gyfer Ysgolion 

  • £10.50 fesul plentyn 
  • £5.50 fesul oedolyn 
  • Un tocyn am ddim i athro/athrawes fesul pob 10 plentyn 
  • Mae modd i ysgolion drefnu taith drwy ffonio 01443 682036 

 Prisoedd Mynediad Cyffredinol Ogof Siôn Corn

  • £13.50 fesul plentyn 
  • £13.50 fesul oedolyn 
  • £6.00 fesul plentyn rhwng 0 a 18 mis oed 
  • Diwrnodau Brig (19 – 24 Rhagfyr) 
  •  £15 fesul plentyn 
  • £15 fesul oedolyn  
  • £8 fesul plentyn rhwng 0 a 18 mis oed 
  • Ffi Archebu (ar gyfer pob archeb): 
  •  £1.00 fesul archeb 

Stori gyda Siôn Corn 

  • £6 fesul plentyn  
  • £3 fesul oedolyn 

Bydd tocynnau ar werth o 9am, ddydd Mercher, 10 medi yma

Wedi ei bostio ar 29/08/2025