Skip to main content

Mae Pontypridd wedi cyrraedd y Rhestr Fer ar gyfer Tref Diwylliant y DU 2028!

UK toc wel rs

Mae Pontypridd wedi cael ei henwi fel un o 15 o drefi sydd wedi cyrraedd y rhestr fer i ddod yn Dref Diwylliant gyntaf erioed y DU yn 2028! Roedd y cais yn un o 398 o geisiadau a gyflwynwyd o bob rhan o'r DU.

Cafodd y cais ei gyflwyno gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ar y cyd â Chyngor Tref Pontypridd, a chafodd y cais ei gefnogi gan sefydliadau diwylliannol lleol, busnesau a phartneriaid yn y gymuned.

Mae cyrraedd y 15 olaf yn cynrychioli cyflawniad diweddaraf y dref a'r ardal ehangach, gan adeiladu ar y gwaith adfywio a buddsoddi diweddar a gynhaliwyd yn y dref, llwyddiant enfawr Eisteddfod Genedlaethol 2024, a rhaglen lewyrchus o wyliau ac achlysuron celfyddydol, cerddorol a diwylliannol yn y gymuned.

Mae'r cais yn dathlu hanes unigryw Pontypridd – o'i threftadaeth ddiwydiannol a'i rôl falch wrth ysbrydoli Anthem Genedlaethol Cymru, i'w hawyrgylch diwylliannol cyfoes a bywiog a'r ymdeimlad cryf o gymuned sy'n gysylltiedig â'r dref.

Pe bai'r cais yn llwyddiannus, byddai rhaglen Tref Diwylliant yn helpu i greu cyfleoedd newydd i drigolion, cefnogi artistiaid a sefydliadau lleol, denu ymwelwyr, ac arddangos diwylliant a chreadigrwydd Pontypridd ar lwyfan cenedlaethol.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf:

Mae cael ein henwi yn un o'r 15 o drefi i gyrraedd y rhestr fer yn rhan o gystadleuaeth a ddenodd bron i 400 o geisiadau yn gamp enfawr i ardal Pontypridd, ac yn dyst i frwdfrydedd, creadigrwydd a gwydnwch ein cymunedau.  "Dyma gyfnod cyffrous iawn i ardal Pontypridd, sydd wedi cael ei thrawsnewid dros y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i fuddsoddiad sylweddol a chynlluniau adfywio sydd wedi helpu i ailfywiogi rhannau o'r dref, cryfhau ein harlwy diwylliannol a sicrhau ffydd y cyhoedd yn nyfodol Pontypridd.

Mae’r cais yma'n ymwneud ag adeiladu ar y momentwm hwnnw ac arddangos yr hyn sydd gan y dref i'w gynnig ar lwyfan cenedlaethol.

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Davies, Arweinydd Cyngor Tref Pontypridd:

Mae’r rhestr fer hon yn adlewyrchiad o’r gwaith partneriaeth cryf sy’n bodoli ledled Pontypridd a’r balchder sydd gan bobl leol tuag at eu tref.  Trwy gydweithio â Chyngor Rhondda Cynon Taf, busnesau lleol, sefydliadau diwylliannol a grwpiau cymunedol, rydyn ni wedi llunio cais sydd â chymeriad unigryw y dref wrth ei wraidd.  O’n marchnad hanesyddol a’n busnesau annibynnol llwyddiannus i’n gwyliau, lleoliadau ac achlysuron cymunedol, mae’r cais yma'n dathlu’r bobl a’r lleoedd sy’n gwneud Pontypridd yn dref arbennig.

Ychwanegodd y Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau, Diwylliant a Hamdden:

Mae hanes diwylliannol Pontypridd yn stori arbennig. O ysbrydoli Anthem Genedlaethol Cymru a chynhyrchu artistiaid a cherddorion byd-enwog, i gynnal achlysuron mawr fel yr Eisteddfod Genedlaethol a chefnogi sin gelfyddydau ffyniannus, mae diwylliant wedi'i blethu yng nghymeriad y dref.  Mae cyrraedd y rhestr fer yn rhoi cyfle i ni ddathlu'r creadigrwydd, brwdfrydedd a'r ysbryd cymunedol sydd eisoes yn bodoli yma, ac mae'n gyfle i arddangos Pontypridd fel un o gyrchfannau diwylliannol arweiniol Cymru a'r DU.

Wedi ei bostio ar 09/07/2026