Skip to main content

Mwynhewch Haf o Hamdden am Oes wrth i'r tocyn poblogaidd ddychwelyd!

53967-15-WELSH-Leisure-Celebration-Summer-Pass-Membership-Poster-2026

Mae Gwasanaeth Hamdden am Oes Cyngor Rhondda Cynon Taf unwaith yn rhagor yn sicrhau haf o hwyl, ffitrwydd a gweithgareddau iachus dros wyliau'r ysgol, diolch i'w Docyn Haf.

Mae miloedd o rieni a gwarcheidwaid wedi prynu Tocynnau Haf dros y blynyddoedd diwethaf, gyda phlant a phobl ifainc yn mwynhau mynediad diderfyn at sesiynau nofio, chwaraeon dan do megis sboncen a badminton, a'r gampfa (11 oed a hŷn) dros wyliau'r haf, a hynny am bris gostyngol.

Mae hyn, yn ogystal â sesiynau nofio i deuluoedd am ddim ym mhob pwll nofio Hamdden am Oes, ystod o Ardaloedd Gemau Aml-ddefnydd mynediad agored o ansawdd uchel ar gyfer pêl-droed, pêl-fasged, pêl-rwyd, badminton a rhagor, YN OGYSTAL AG amserlen sy’n llawn sesiynau chwaraeon gan Chwaraeon RhCT, yn wledd o gyfleoedd i blant a phobl ifainc dros yr haf, diolch i Hamdden am Oes.

Er bod y Tocyn Haf yn boblogaidd gyda phlant a phobl ifainc sy'n awyddus i gael hwyl dros wyliau'r haf, mae'n bwysig cofio bod y tocyn ar gael i bob oedran.

Mae hyn yn golygu ei fod hefyd yn wych ar gyfer:

  • Myfyrwyr prifysgol sydd gartref dros yr haf ac eisiau cadw'n heini neu roi cynnig ar rywbeth newydd.
  • Trigolion sydd eisiau defnyddio'r tocyn er mwyn rhoi cynnig ar Hamdden am Oes a dechrau ar eu taith ffitrwydd.
  • Teulu neu ffrindiau sy'n dod i ymweld â chi, ac sydd eisiau defnyddio'r cyfleusterau hamdden pan maen nhw yn Rhondda Cynon Taf.

Mae'r Tocyn Haf yn hawdd, yn fforddiadwy, ac yn cynnig mynediad diderfyn at ystod o wasanaethau hamdden. Mae modd defnyddio'r tocyn ym mhob un o'n 12 canolfan Hamdden am Oes. Mae ei ddefnyddio yn syml - prynwch eich tocyn o unrhyw ganolfan Hamdden am Oes, ac mae'n barod i'w ddefnyddio dros y pythefnos nesaf!

Mwynhewch sesiynau nofio, chwaraeon a hamdden mor aml ag y dymunwch. Pan fydd y tocyn yn dod i ben, prynwch un arall ar gyfer y pythefnos nesaf! Mae croeso i chi brynu cynifer o docynnau ag ydych chi'n ei ddymuno cyn i'r cynnig ddod i ben ym mis Medi.

Mae Tocynnau Haf yn £26, neu £16.50 ar gyfer consesiynau (60 oed a hŷn, 18 oed ac iau, cynhalwyr cofrestredig, a'r rheiny sy'n derbyn budd-daliadau cymwys. Bwriwch olwg ar y meini prawf llawn yma)

Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf sy'n gyfrifol am Hamdden am Oes: "Mae'r Tocyn Haf yn esiampl arall o'r ffordd arloesol mae Hamdden am Oes yn ymdrechu i gynnig cyfleoedd iechyd, lles a hamdden hawdd a hygyrch i bawb.

"Mae'n cael ei alw'n Hamdden am Oes am reswm! Mae yna ar gyfer pob trigolyn ym mhob cam o fywyd - o fabanod newydd-anedig yn eu gwers nofio sblash cyntaf, i bobl hŷn sy’n defnyddio ffitrwydd er mwyn eu helpu i gadw yn heini, yn hyderus, a hyd yn oed er mwyn gwella ar ôl salwch neu anaf.

"Mae Hamdden am Oes yna ar eich cyfer ym mhob cam o'ch bywyd - waeth beth rydych chi eisiau ei gyflawni - gyda staff cyfeillgar, proffesiynol a gwybodus i'ch helpu chi bob cam o'r ffordd.

"Mae Aelodaeth Hamdden am Oes gyffredinol yn un o'r cynigion mwyaf hael a chynhwysol yn y rhanbarth yn barod, gan gynnig mynediad diderfyn i'r gampfa, sesiynau nofio, dosbarthiadau ffitrwydd, ystafell iechyd, a chwaraeon dan do yn ein 12 canolfan. 

"Ond mae ymrwymiad pellach yn cael ei wneud i drigolion a'u hanghenion, fel sydd i'w weld yn yr ystod eang o gonsesiynau aelodaeth a'r mentrau sy'n cael eu cynnig, yn ogystal â darpariaeth cynigion tymhorol megis y Tocyn Haf.

"Mae modd i blant a phobl ifainc gael amser gwych gyda'u ffrindiau dros yr haf eleni, gyda chyfleoedd i fwynhau chwaraeon, hamdden, a ffitrwydd mewn amgylchedd diogel am bris fforddiadwy. Mae cyfleoedd iddyn nhw gwrdd â phobl newydd, dysgu sgiliau newydd, ac efallai datblygu angerdd dros chwaraeon.

"Bydd y sesiynau nofio ac Ardaloedd Gemau Aml-ddefnydd am ddim, yn ogystal â'r rhaglen ardderchog gan Chwaraeon RhCT, yn sicrhau bod digon o gyfleoedd hamdden yn ystod haf 2026!"

 

Bydd Tocynnau Haf Hamdden am Oes yn mynd ar werth am nawr. Mae modd i chi brynu eich tocynnau yn nerbynfa unrhyw un o'n 12 canolfan Hamdden am Oes. Bwriwch olwg ar y rhestr lawn ac ar amserlenni llawn eu campfeydd, sesiynau nofio, a dosbarthiadau ffitrwydd yma.

Mae eich tocyn yn weithredol o'r eiliad y byddwch chi'n ei brynu, ac mae modd i chi ei ddefnyddio bob dydd dros bythefnos mewn un, ym mhob un, neu gymysgedd o'n Canolfannau Hamdden am Oes,  gan ddibynnu ar eich amserlen, eich lleoliad, neu'r hynny rydych chi eisiau ei wneud.

Unwaith y bydd eich tocyn yn dod i ben, prynwch docyn arall er mwyn ei ddefnyddio dros y pythefnos nesaf. Mae croeso i chi brynu cynifer o docynnau ag ydych chi'n ei ddymuno cyn i'r cynnig ddod i ben ym mis Medi.

Os ydych chi wrth eich bodd â'ch profiad Hamdden am Oes wedi i chi brynu eich tocyn, bwriwch olwg ar ddewisiadau aelodaeth yma.

Cofiwch, rydyn ni'n cynnig aelodaeth am brisiau consesiynol i bobl sy'n 60 oed a hŷn, 18 oed ac iau, cynhalwyr cofrestredig, myfyrwyr llawn amser a phobl sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Rhagor o wybodaeth yma.

Rydyn ni hefyd yn cynnig gostyngiadau i ddeiliaid Cerdyn Golau Glas a mynediad Hamdden am Oes am bris gostyngol neu am ddim i'r rheiny yn y Lluoedd Arfog (y rheiny sy'n gwasanaethu ac wedi ymddeol) a'u teuluoedd hefyd.

Os ydych chi'n gweithio mewn busnes, yng nghanol trefi Pontypridd neu Donysguboriau, neu’n berchen ar fusnes yno, mae modd i chi sicrhau aelodaeth am bris gostyngol drwy'r Cynllun Canol Trefi. Rhagor o wybodaeth yma.

Yn olaf, mae gyda Hamdden am Oes ystod o bartneriaid corfforaethol. Os ydych chi'n gweithio i un o'n partneriaid corfforaethol, neu’n aelod ohonyn nhw, mae modd i chi ac un person arall sicrhau Aelodaeth Hamdden am Oes am bris gostyngol. Rhagor o wybodaeth yma:

 

Wedi ei bostio ar 10/07/2026