Skip to main content

Cartref Gofal Tŷ Pentwyn wedi'i anrhydeddu gyda Chydnabyddiaeth Treftadaeth am ei rôl hanesyddol yng Nghwm Rhondda

Ty Pentwyn

Mae Cartref Gofal Tŷ Pentwyn wedi'i gydnabod yn ffurfiol am ei ran nodedig yn hanes Cwm Rhondda. Cafodd Plac Glas Treftadaeth ei gyflwyno gan Wasanaeth Treftadaeth Cyngor Rhondda Cynon Taf. Mae'r plac yn coffáu gwreiddiau'r adeilad fel Ysbyty Bwthyn Pentwyn, sef ysbyty bwthyn olaf Cwm Rhondda.

Cafodd Ysbyty Bwthyn Pentwyn ei adeiladu yn 1923-1924 gan William Jenkins, cyn Reolwr-Gyfarwyddwr Ocean Collieries a'i wraig. Roedd rôl Jenkins yn hanfodol yn natblygiad diwydiant glo'r ardal, gan oruchwylio datblygiadau mawr gan gynnwys suddo Glofa Deep Navigation yn Nhreharris ym 1893 a Glofa'r Arglwyddes Windsor yn Ynys-y-bwl ym 1895. Ar ôl arwain am ddegawdau, dewisodd roi yn ôl i'r gymuned gloddio trwy brynu tir ger Treorci ac adeiladu ysbyty 24 gwely ar gyfer gweithwyr Ocean Collieries a'u teuluoedd.

Ym 1948, daeth yr ysbyty dan Bwyllgor Rheoli Ysbyty Pontypridd a Chwm Rhondda, gan barhau â'i waddol o ofal cyn iddo ddod yn Gartref Gofal Tŷ Pentwyn yn hwyrach. Heddiw, dyma'r unig adeilad ysbyty bwthyn sydd ar ôl yng Nghwm Rhondda, gyda'r holl rai eraill wedi'u dymchwel.

Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau:

Mae’r plac yma'n deyrnged addas i adeilad sydd wedi gwasanaethu pobl Cwm Rhondda ers dros ganrif. Fe wnaeth gweledigaeth a haelioni William Jenkins greu lle gofalgar i lowyr a'u teuluoedd, ac mae'r ysbryd tosturiol yna'n parhau yn Nhŷ Pentwyn heddiw. Mae diogelu'r hanes yma'n hanfodol, nid yn unig i anrhydeddu’r rhai a ddaeth o’n blaenau, ond i sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn deall sylfeini ein cymunedau.

Bydd y plac newydd wedi'i osod yn falch ochr yn ochr â'r plac coffa a gafodd ei osod y llynedd i nodi 100 mlynedd o wasanaeth yr adeilad, gan ddathlu gwaddol o ofal, cymuned a chydnerthedd.

I gael rhagor o wybodaeth am Blaciau Glas a hanes a threftadaeth ddiddorol Rhondda Cynon Taf, ewch i wefan www.eintreftadaethrhct.com

Wedi ei bostio ar 12/03/2026