Mae'r Rhialtwch Calan Gaeaf yn dychwelyd i Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda ym mis Hydref! Rhwng dydd Mercher 28 Hydref a dydd Gwener 30 Hydref 2026, bydd Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda unwaith eto'n cael ei thrawsnewid yn fyd o syrpreisys arswydus, hwyl i'r teulu ac atgofion Calan Gaeaf hudol!
Bydd yr achlysur yn cael ei gynnal yng nghanol Trehafod a bydd yn croesawu teuluoedd dros DRI diwrnod dychrynllyd gyda gweithgareddau, adloniant ac anturiaethau ar thema Calan Gaeaf.
Mae pob tocyn plentyn yn cynnwys saith o brofiadau brawychus!
Pigo pwmpen berffaith
Ewch i'n pwmpenfa a dewis pwmpen i fynd â hi adref gyda chi.
Helfa Calan Gaeaf
Crwydrwch o gwmpas yr amgueddfa wrth i chi chwilio am syrpreisys arswydus cudd, casglu stampiau ac ennill gwobr...
Sioe Calan Gaeaf
Mwynhewch berfformiadau byw sy'n llawn chwerthin, direidi a hud Calan Gaeaf.
Crefftau Codi Ofn
Defnyddiwch eich sgiliau creadigol yn y gweithgareddau celf a chrefft ar thema Calan Gaeaf.
Mannau Lluniau Arswydus
Tynnwch luniau i'w cofio gyda'r teulu.
Adfail y Pwll Glo
Mentrwch o dan ddaear i adfail y pwll glo lle bydd sgerbydau swynol, syrpreisys arswydus a hoff bwmpen pawb, Patch, yn aros amdanoch chi!
Ffair Hwyl Fang-tastig
Mwynhewch ddwy reid glasurol i blant - gwych ar gyfer eich angenfilod bach.
Mae sesiynau cyfnos yn dychwelyd!
Mae ein sesiynau cyfnos poblogaidd yn cynnwys pob un o'r gweithgareddau oriau dydd, yn ogystal ag adloniant gan ein cymeriadau a fydd yn codi ofn a syrpreisys a fydd yn codi ias!
Amseroedd y Sesiynau
10am - 12pm
12.30pm - 2.30pm
3pm - 5pm
Sesiwn Gyfnos: 6pm–8pm
Prisiau'r Tocynnau
O £17.50 (Oedolyn a phlentyn, gan gynnwys ffi cadw lle)
Mae tocynnau eraill a thocynnau unigol ar gael.
Mae tocynnau ar gyfer Rhialtwch Calan Gaeaf ar werth yma.
Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau, Diwylliant a Hamdden: "Mae Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn atyniad gwych i deuluoedd drwy gydol y flwyddyn, ond mae'n dod yn brofiad hudol adeg Calan Gaeaf.
"Mae Rhialtwch Calan Gaeaf wedi dod yn achlysur poblogaidd iawn yn ein calendr, gan roi cyfle i deuluoedd fwynhau diwrnod unigryw sy'n llawn adloniant, creadigrwydd a hwyl dymhorol.
"O ddewis pwmpen a chrwydro o gwmpas Adfail y Pwll Glo i fwynhau perfformiadau byw a'n sesiynau cyfnos, mae rhywbeth at ddant pawb. Edrychwn ni ymlaen at groesawu ymwelwyr ar gyfer Calan Gaeaf cofiadwy arall yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda."
P'un a fyddwch chi'n ymuno â ni yn ystod y dydd neu gyda'r nos, mae Rhialtwch Calan Gaeaf yn addo rhaglen sy'n llawn adloniant addas i deuluoedd, syrpreisys arswydus ac atgofion bythgofiadwy.
Prynwch eich tocynnau nawr a pharatoi ar gyfer amser bwganllyd!
Wedi ei bostio ar 09/09/2026