Mae Cynllun Cynnal y Cynhalwyr Rhondda Cynon Taf yn darparu gwybodaeth a chymorth ar gyfer Cynhalwyr sy'n byw yn RhCT. Drwy gofrestru gyda'r Cynllun, byddwch chi'n derbyn cylchlythyrau rheolaidd, cyfeiriadur A-Y i Gynhalwyr, mynediad i sesiynau hyfforddiant a gwybodaeth, mynediad i'r gwasanaeth Cwnsela i Gynhalwyr, mynediad gostyngol i wasanaethau hamdden, a chymorth, cyngor ac arweiniad gan y Cynllun.
Mae asesiadau cynhalwyr yn ffordd o nodi'ch anghenion fel cynhaliwr, gan edrych ar eich rôl fel cynhaliwr, sut mae bod yn gynhaliwr yn effeithio arnoch chi ac unrhyw gymorth y gallai fod angen arnoch chi.
This service is provided by RCT Carers Project and is a free telephone or face to face counselling service provided by qualified counsellors and available to local Carers in RCT.
Bydd eich "Pecyn Croeso" yn cynnwys ein cylchlythyr, canllaw A-Y, a gwybodaeth am ein gwasanaeth ni a'n gwasanaethau lleol.