Mae'r swydd 'Hyrwyddwr Cynhalwyr' wedi cael ei sefydlu er mwyn ei gwneud hi'n fwy hwylus i Gynhalwyr dderbyn cymorth a chyngor. Mae'r hyrwyddwyr yn fan cyswllt lleol i staff a Chynhalwyr, sy'n eu galluogi i gael gwybodaeth a chyngor.
Mae'r swydd yma'n un wirfoddol lle mae aelod o staff yn gweithredu fel prif gyswllt ar gyfer rhoi gwybodaeth i Gynhalwyr yn ei adran. Mae'r Hyrwyddwyr Cynhalwyr yn rhwydwaith o aelodau staff wedi'u lleoli o amgylch ein hadrannau gwasanaeth sy'n arwain ar faterion Cynhalwyr. Mae llawer o Garfanau â Hyrwyddwr Cynhalwyr a nhw yw'r bobl gyswllt sy'n casglu gwybodaeth a'i rhannu ymhlith eu carfanau a'r Cynhalwyr.
Mae gyda ni Gynhalwyr yn y llefydd/adrannau yma:
- Carfanau Gofal Cymdeithasol
- Canolfannau Hamdden
- Canolfannau iBobUn
- Cymunedau yn Gyntaf
- Carfan Hawliau Lles
- Colegau
- Cylchoedd Trafod 50+
- Adrannau Tai
- Canolfannau Byd Gwaith
- Ysgolion
- Gwasanaethau i Blant
- Gwasanaeth Gofal yn y Cartref
- Canolfannau Oriau Dydd
Mae'r dyletswyddau Hyrwyddwr Cynhalwyr yn cynnwys:
- Nodi ac annog staff yn y garfan i gwblhau'r pecyn hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Gynhalwyr sydd ar gael i'r holl staff.
- Gweithredu yn sianel ar gyfer rhaeadru gwybodaeth am Gynhalwyr yn y gweithle.
- Hyrwyddo ymwybyddiaeth o swyddogaeth Cynhalwyr.
- Arddangos a chynnal cyflenwadau o daflenni a phosteri ynglŷn â Chynhalwyr yn y gweithle.
- Hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o faterion Cynhalwyr.
- Tynnu sylw at ddatblygiadau sy'n berthnasol i gefnogi Cynhalwyr yn y garfan.
- Annog Cynhalwyr i gofrestru gyda Chynllun Cynnal y Cynhalwyr.
- Ymgymryd â hyfforddiant ar gyfer Hyrwyddwyr Cynhalwyr.
- Dosbarthu E-fwletinau Hyrwyddwyr Cynhalwyr i roi gwybodaeth i gydweithwyr.
Gweithredu fel cyswllt ar gyfer Cydlynydd y Mesur ar gyfer Gofalwyr
Cydlynydd y Mesur ar gyfer Gofalwyr: Prosiect Cynnal y Cynhalwyr
Ffôn: 01443 281463
Dydy Hyrwyddwr Cynhalwyr ddim yn cael ei ddisgwyl i fod yn arbenigwr ar 'Faterion Cynhalwyr' neu ddarparu cymorth un-i-un ar gyfer Cynhalwyr. Mae Hyrwyddwyr Cynhalwyr yn cael eu nodi o fewn adrannau'r GIG hefyd, gan gynnwys Practisau Meddygon Teulu, wardiau ysbytai a fferyllfeydd.
Cydlynydd y Mesur ar gyfer Gofalwyr y Bwrdd Iechyd
Ffôn: 01443 744825