Mae Cynllun Cynnal y Cynhalwyr RhCT yn cynnal Cymhorthfa Gyfreithiol am ddim i gynhalwyr ar ddydd Iau olaf y mis.
Ydych chi'n gynhaliwr? Ydych chi'n gofalu am aelod o'r teulu, ffrind neu gymydog? Hoffech chi gyngor cyfreithiol am ddim?
Fyddech chi'n ddiolchgar am gael cyfle i siarad â chyfreithiwr cymwys wyneb-i-wyneb am faterion megis:
- Ewyllysiau
- Profiant ac ymddiriedolaethau
- Ffïoedd gofal
- Atwrneiaeth
- Unrhyw faterion cyfreithiol eraill mae rhaid i lawer o gynhalwyr ddelio â nhw?
Os byddech chi, beth am drefnu apwyntiad ymgynghori 40 munud cychwynnol am ddim mewn awyrgylch anffurfiol.
Bydd yr apwyntiadau i gyd yn:
Cynllun Cynnal y Cynhalwyr Rhondda Cynon Taf,
11-12 Gelliwastad Road,
Pontypridd
CF37 2BW
I gadw lle neu am ragor o wybodaeth, ffoniwch Gynllun Cynnal y Cynhalwyr ar 01443 281463.
Rhaid trefnu ymlaen llaw.
Helpwch ni i wella - peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol neu ariannol, e.e. eich Rhif Yswiriant Gwladol neu fanylion cerdyn credyd.
Rhowch reswm ac unrhyw awgrymiadau o ran ein cynorthwyo i wella y dudalen we.