Rhowch eich lleoliad isod i ddod o hyd i'ch dyddiadau casglu gwastraff a deunydd ailgylchu.
Pa mor aml mae eich biniau'n cael eu casglu?
- Deunydd y mae modd ei ailgylchu (hynny yw, gwastraff bwyd, deunydd ailgylchu sych, cewynnau a gwastraff gwyrdd) - Pob wythnos
- Bagiau du / gwastraff cyffredinol - Bob pythefnos
- Does DIM cyfyngiad ar nifer y bagiau ailgylchu CLIR, bagiau ailgylchu cewynnau a bagiau ailgylchu bwyd y mae modd eu rhoi allan BOB WYTHNOS - Rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau ailgylchu sy'n cael eu cynnig.
- Fyddwn ni DDIM yn casglu unrhyw wastraff ychwanegol gan gartrefi sy'n cael casgliadau gwastraff bob pythefnos. Bydd angen i breswylwyr sicrhau bod digon o le ar gyfer y gwastraff yn y bin ar olwynion, a RHAID i'r bin gau.
- Byddwn ni'n casglu 2 fag du YN UNIG o gartrefi sydd heb fin lle caiff sbwriel ei gasglu bob pythefnos.
Rhoi eich bin a'ch bagiau du allan
Amser
Rhowch eich bin allan rhwng 7pm y noson gynt a 7am ar fore'ch diwrnod casglu arferol.
Lleoedd
Rhowch y bin wrth ymyl y pafin, gan wneud yn siŵr nad yw'n rhwystro llwybrau cerdded neu fannau mynediad pafin isel.
Dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, mae'n bosib y bydd cyfnodau o dywydd garw neu gyfnodau lle bydd rhaid cau gwasanaethau'n annisgwyl. Efallai hefyd y bydd eich diwrnod casglu gwastraff yn newid. Am ragor o fanylion, ewch i dudalen Tywydd Garw - Y diweddaraf am wasanaethau'r Cyngor. Does DIM newidiadau i ddiwrnodau casglu gwastraff yn dilyn Gwyliau Banc eraill.
Oedd yr wybodaeth yma'n ddefnyddiol?