Faint o fagiau du caf i eu rhoi allan?
Mae cyfyngiad ar nifer y bagiau du rydych chi'n cael eu rhoi allan ar gyfer eich casgliad sbwriel bob pythefnos.
Dim bin olwynion |
2 fag du (maint safonol) |
Os oes bin olwynion gennych chi |
Dim bagiau du ychwanegol, ac mae rhaid i'r bin fod ar gau |
Pan fetha popeth arall, bydd y trigolion hynny sy'n dewis gwrthod ailgylchu neu anwybyddu cyngor a rhybuddion gan Swyddogion Gorfodi dro ar ôl tro yn cael Hysbysiad Cosb Benodedig o £100.
Noder: Os oes gennych chi 2 fin olwynion, bydd hyn yn cael ei ystyried yn wastraff ochr a byddwn ni'n gofyn i chi symud eich ail fin. Mae'n bosibl y byddwn ni'n symud yr ail fin, os bydd angen.
Hefyd, ni fyddwn yn casglu bagiau du sy'n cael eu hystyried yn rhy drwm. Bydd Gwastraff Lludw yn cael ei gasglu mewn bagiau du canolig eu maint yn ychwanegol at y bagiau uchod. Cyn rhoi'r lludw mewn bag du, gwnewch yn siŵr ei fod e wedi oeri.
Cyn rhoi'r lludw mewn bag du, gwnewch yn siŵr ei fod e wedi oeri. Cysylltu â'r Cyngor i roi gwybod i'r cyngor y byddwch chi'n rhoi gwastraff lludw allan i'w gasglu ynghyd â'ch bagiau du
Beth fydd yn digwydd os oes gormod o fagiau du?
Fyddwn ni ddim yn casglu unrhyw fagiau du ychwanegol (ac eithrio gwastraff lludw) ac mae'n debygol y bydd Swyddogion Ymwybyddiaeth Gwastraff y Cyngor yn ymweld â chi. O dan y rheolau newydd sy’n dod i rym ar 4 Mehefin, pan fetha popeth arall, bydd y trigolion hynny sy'n dewis gwrthod ailgylchu neu anwybyddu cyngor a rhybuddion gan Swyddogion Gorfodi dro ar ôl tro yn cael Hysbysiad Cosb Benodedig o £100. – a fydd y cam olaf – i bobl sy’n anwybyddu rhybuddion oddi wrth Swyddogion Gorfodi ac sy’n gwrthod ailgylchu byth a hefyd.
Mae croeso i chi gysylltu â'n Swyddogion Ymwybyddiaeth Gwastraff am gyngor i'ch helpu i leihau eich gwastraff bagiau du ac ailgylchu rhagor o ddeunyddiau. Gweld rhagor o wybodaeth ar yr hyn sy'n mynd yn eich bin.
Sut gallwch chi leihau eich gwastraff bagiau du.
Darganfyddwch beth y gellir ac na ellir ei ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf.