Skip to main content

Gwastraff Ailgylchu Anaddas

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn galw ar drigolion i beidio â gwastraffu eu gwastraff mewn ymateb i'r broblem gynyddol o ailgylchu wedi'i lygru - ac yn benodol, y mater o roi gwastraff bwyd mewn bagiau ailgylchu cyffredinol.

Mae problem gynyddol o ddeunydd ailgylchu sydd wedi'i lygru yn atal y Cyngor rhag ailddefnyddio llawer o eitemau, er gwaethaf bwriad trigolion i'w hailgylchu.

Eitemau mae modd eu hailgylchu sydd wedi eu trochi â halogyddion yw’r deunydd ailgylchu sydd wedi'i lygru - enghraifft bob dydd o hyn yw rhoi gwastraff bwyd neu gewynnau yn yr un bag ag ailgylchu sych. Gall halogi hefyd ddigwydd pan fo cynhwysyddion bwyd sydd heb eu glanhau'n iawn gael eu rhoi mewn bag ailgylchu sych.

Gall hyn  arwain at gynnwys y bag cyfan yn cael ei wastraffu. Dyna pam mae'r Cyngor yn cymryd y mater o ddifrif ac  yn gweithredu  yn erbyn troseddwyr.

Rydyn ni'n amcangyfrif bod 20% o ddeunydd ailgylchu cartrefi yn anaddas oherwydd nad yw trigolion yn ailgylchu'n briodol.

Os yw'r staff casglu yn gweld bag ailgylchu sy'n cynnwys deunydd nad oes modd ei ailgylchu, fyddan nhw ddim yn ei gasglu! Yn lle gwneud hynny, byddan nhw'n rhoi sticer 'Wedi'i Lygru' ar y bag.

Bydd angen i chi ddidoli cynnwys y bag, cael gwared ar yr eitemau anaddas a'i roi e allan i gael ei gasglu'r wythnos ganlynol.

Dylai bagiau ailgylchu ddim cael eu defnyddio yn lle bagiau du mewn bin olwynion. Mae'n bosib y bydd hyn yn arwain at eich bin olwynion yn cael ei gymryd oddi wrthoch chi.