NODWCH: Ddylech chi ddim ymweld ag unrhyw un o'r Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned os oes gyda chi neu rywun yr ydych yn byw gyda nhw symptomau COVID-19, megis tymheredd uchel, peswch newydd a pharhaus, neu golli arogl (anosmia).
MANYLION AM BETH SY'N CAEL EI AILGYCHU YN EIN CANOLFANNAU
GWELD RHEOLAU'R CANOLFANNAU AILGYLCHU YN Y GYMUNED
GWELD CWESTYINAU CYFFREDIN
Bydd y safleoedd canlynol yn gweithredu gyda nifer o gyfyngiadau a chanllawiau pwysig o ran cadw pellter cymdeithasol y bydd yn ofynnol i breswylwyr sy'n defnyddio'r Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned eu dilyn. Mae'r rhain ar waith i ddiogelu staff a'r cyhoedd, ac i sicrhau bod yr adnoddau angenrheidiol ar gael i ateb y galw disgwyliedig.
MANYLION AM BETH SY'N CAEL EI AILGYCHU YN EIN CANOLFANNAU
GWELD RHEOLAU'R CANOLFANNAU AILGYLCHU YN Y GYMUNED
Mae'r HOLL Ganolfannau Ailgylchu yn y Gymuned isod AR AGOR, 7 diwrnod yr wythnos o 8am-7:30pm.
Mae POB canolfan ailgylchu yn y gymuned ar agor 7 niwrnod yr wythnos o 16 Tachwedd, ond byddan nhw'n cau am 5.30pm yn unol ag oriau agor y Gaeaf.
Ar hyn o bryd mae chwe Chanolfan Ailgylchu yn y Gymuned yn Rhondda Cynon Taf.
- Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Tŷ Amgen, Llwydcoed, Aberdâr, CF44 0BX
- Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Glynrhedynog, Heol y Gogledd, Glynrhedynog, CF43 4RS
- Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Dinas, Heol y Cymer, Dinas, CF39 9BL
- Tŷ Glantaf, Taffs Fall Road, Ystad Ddiwydiannol Trefforest, CF37 5TT
- Canolfan Ailgylchu 100%, Ffordd Pant-y-Brad, ger Heol-y-Sarn, Ystad Ddiwydiannol Llantrisant, CF72 8YT
- Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Treherbert, Ystad Ddiwydiannol Treherbert, Treherbert, CF42 5HZ
MANYLION AM BETH SY'N CAEL EI AILGYCHU YN EIN CANOLFANNAU
GWELD RHEOLAU'R CANOLFANNAU AILGYLCHU YN Y GYMUNED
Nodwch - bydd cyfleusterau'r Sied yng Nghanolfannau Ailgylchu yn y Gymuned Llantrisant a Threherbert ar gau tra bydd cyfyngiadau COVID-19 Lefel Rhybudd 4 mewn grym.
Helpwch ni i wella - peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol neu ariannol, e.e. eich Rhif Yswiriant Gwladol neu fanylion cerdyn credyd.
Rhowch reswm ac unrhyw awgrymiadau o ran ein cynorthwyo i wella y dudalen we.