Mae Rheolau Newydd bellach wedi dod i rym yn RhCT er mwyn cynyddu cyfraddau ailgylchu ar draws y Fwrdeistref Sirol, yn dilyn amcangyfrifon sy'n nodi bod modd ailgylchu 80% o wastraff y cartref.
Daeth y rheolau newydd i rym ar 4 Mehefin 2018. Mae'r rheolau newydd yn golygu bod cyfyngiad ar:
- Nifer y bagiau du/bin ar olwynion sy'n cael eu casglu er mwyn sicrhau bod preswylwyr yn ailgylchu cymaint ag sy'n bosibl
Bwriwch olwg ar ein tudalen sy'n esbonio'r cyfyngiadau newydd ar gyfer bagiau du/biniau.

- Byddwn ni'n parhau i gynnal casgliadau ailgylchu, ailgylchu cewynnau, ailgylchu gwastraff bwyd ac ailgylchu gwastraff o'r ardd* unwaith yr wythnos a fydd ddim terfyn ar nifer y bagiau y mae modd eu rhoi allan - Rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau ailgylchu.
- *Gan nad oes cymaint o alw ar gyfer y casgliadau yma yn ystod y Gaeaf, byddwn ni'n cynnal gwasanaeth casglu gwastraff o'r ardd unwaith y pythefnos rhwng 1 Tachwedd a 1 Mawrth.
- Byddwn ni'n nodi'r rheiny sy'n mynnu peidio ag ailgylchu yn y modd cywir a bydd ein swyddogion yn siarad â nhw er mwyn sicrhau bod gyda nhw'r wybodaeth a'r offer sydd eu hangen er mwyn ailgylchu'n gywir (biniau, bagiau ayyb). Os yw unigolion yn gwrthod ailgylchu byth a hefyd, byddwn ni'n cyflwyno rhybudd, rhoi cyfarwyddiadau ac yn y pen draw, byddwn ni'n cymryd camau gorfodi, gan gynnwys rhoi dirwy o £100.
Edrychwch ar ganllaw "Popeth sydd angen i chi'i wybod"
Cwestiynau cyffredin ynghylch y Rheolau Newydd