
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi ymuno â mudiad clodwiw sy'n ei gwneud hi'n hawdd i bobl ail-lenwi poteli dŵr mewn sawl lleoliad ledled y DU am ddim.
Mae Ail-lenwi RhCT yn helpu'r sefydliad dielw City to Sea i gyflwyno Gorsafoedd Ail-lenwi ar draws canol trefi yn Rhondda Cynon Taf, a hynny drwy annog busnesau lleol i gofrestru a darparu dŵr am ddim.
Mae llu o fusnesau wedi cofrestru, ac mae'r Cyngor yn falch o gyhoeddi bod nifer o Orsafoedd Ail-lenwi ledled Rhondda Cynon Taf sy'n cynnwys caffis, tafarnau, bwytai a busnesau eraill.
Dyma lle gallwch ail-lenwi eich poteli dŵr yn Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd:
Canol Tref Aberdâr
- Bradleys Coffee
- Peppers
- Pop in Restaurant
- The Ranch Diner
- Subway
- Greggs
- Servinis Café
- Wetherspoons
Canol Tref Aberpennar
- Llyfrgell Aberpennar / Ystafell De Little Rose
- Abigail Lewis Photography
- Danish Bacon Bar
- Greggs
Canol Tref Glynrhedynog
- Greggs
- KJS Quality Meats
- Sweet Shop
- Mandy's Bistro
- Lindy Lous
- Scoop and Smile
- Margaritellis
- Meddygfa Ferndale
Canol Tref y Porth
- Mr Chippy
- Orb Shop and Café
- Siop Flodau Old Pat Anthonys
- The Deli
- Greggs
- All about Town Café
Canol Tref Tonypandy
- Coffee Shop
- Greggs
- The Cwtch
- Conti's Fish and Chip Bar
Canol Tref Treorci
- Totally Scrumptious
- Lion Inn
- Treorchy Fish Bar
- Café Café Treorchy
- Hot Gossip
- Caffi/Bar Pysgod Carpannins
- A Fish Called Rhondda
- 10 Below dessert Parlour
- Cosy Café
- Deli Salad Bar
- Gwesty Bar Bistro
- Greggs
Mae'r Cyngor nawr yn annog rhagor o fusnesau i ymuno â chwyldro Refill UK, sy'n newid y ffordd y mae pobl yn yfed dŵr. I gofrestru, mae angen i fusnesau lawrlwytho'r ap 'Refill' am ddim a rhoi sticer yn eu ffenestr i ddangos i bobl sy'n mynd heibio bod croeso iddyn nhw lenwi eu poteli am ddim, fel arall e-bostiwch ni am ragor o fanylion.