Mae modd archebu bin olwynion newydd neu gyfnewid bin mwy am fin maint safonol (120 litr) ar-lein.
Gwasanaeth i breswylwyr Cwm Cynon a Chwm Taf yn unig yw hwn
Bydd archebu bin ar olwynion newydd (120 litr) yn golygu cost o £30.10 (costau gweinyddu). Does dim modd ad-dalu'r gost yma a bydd y taliad yn cael ei wneud drwy gerdyn credyd neu ddebyd.
Ffoniwch ni ar 01443 425001 i gyfnewid eich bin mawr am fin safonol am ddim (120 litr)
- Ni fyddwn ond yn cyflenwi ac yn casglu un bin ar olwynion fesul cartref
- Nes i chi dderbyn eich bin ar olwynion, fe gewch chi ddefnyddio bagiau sbwriel i waredu'ch gwastraff.
- Byddwn ni'n casglu hyd at 2 o fagiau du ar eich diwrnod casglu sbwriel dynodedig.
- Ar ôl i chi dderbyn eich bin, nodwch fod RHAID i'r bin gau'n llawn a fyddwn ni ddim yn casglu unrhyw wastraff ychwanegol sydd ar ochr y ffordd.