Dyma gyfle i chi newd eich bin 240 litr am un 120 litr am ddim.
Ffoniwch ni ar 01443 425001 i wneud y trefniadau. Fydd dim cost i chi am hyn.
Ar gyfer trigolion Cwm Cynon a Thaf-elái y mae’r gwasanaeth yma.
- Fyddwn ni ddim yn cyflenwi bin 120 litr os nad yw bin 240 litr wedi cael ei roi allan i gael ei gasglu
- Dim ond un bin ag olwynion byddwn ni’n ei roi fesul aelwyd
- Os yw’ch bin 240 litr wedi torri, cewch chi ddefnyddio 2 fag du maint arferol i waredu’ch gwastraff hyd nes i chi gael eich bin ag olwynion 120 litr.
- Ar ôl i chi gael eich bin, cofiwch fod RHAID i chi allu cau’r caead yn llwyr ac na fydd unrhyw wastraff ychwanegol yn cael ei gasglu.