Skip to main content

Y Sied – Siopau Ailddefnyddio

 

Dwlu ar fargeinion? Talwch sylw!


Mae gan y Sied siop newydd sbon yn Aberdâr ac mae ar agor ichi roi nwyddau neu bori trwy'r siop ar 5 Medi. Bydd yn agor yn swyddogol nes ymlaen mis yma. 

  • Ein cyfeiriad yw 31/32 Stryd y Canon, Aberdâr

Dilynwch @TheShedCommunity am y newyddion diweddaraf neu ewch i www.rctcbc.gov.uk/YSied

 Y Sied yn Llantrisant a Threherbert bellach ar agor.Mae Siopau Ailddefnyddio'r Sied wedi'u lleoli yn:
  • Llantrisant, Unit 2 Fford Prichard, Llantrisant Business Park, Llantrisant. CF72 8LF
  • Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Treherbert, Ystad Ddiwydiannol Treherbert, Treherbert, CF42 5HZ

Llantrisant a Threherbert. Mae modd eu prynu o'r siopau am brisiau rhagorol.

Mae eitemau sydd ar werth wedi cael eu gweddnewid ar ôl cyrraedd Canolfannau Ailgylchu Mae siop Llantrisant ar agor 7 diwrnod yr wythnos, rhwng 9.30 am a 4pm ac mae safle Treherbert ar agor ddydd Llun-dydd Sadwrn 9.30am heb ei ail 4pm.

Maen nhw'n gwerthu eitemau a gafodd eu hachub rhag mynd i’r safle tirlenwi gan weithwyr a gwirfoddolwyr yn y Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned. Ydych chi ar fin mynd ag eitemau sy’n addas i’w hailddefnyddio i Ganolfan Ailgylchu? Mae modd i chi eu rhoi nhw i’r siopau!

shed-welsh-logo

Rydyn ni'n croesawu llyfrau, teganau, beiciau, llestri addurniadau, DVDs, dodrefn, a llu o eitemau eraill. Mae hi fel arwerthiant cist car saith niwrnod yr wythnos – wyddoch chi byth beth allai ddod i law!

Bydd cynorthwywyr a gwirfoddolwyr yn gwirio bod yr eitemau mewn cyflwr gweithio diogel a da. Wedyn byddan nhw'n eu glanhau a'u rhoi ar werth. 

Mae'r Sied yn sicrhau bod mwy a mwy o eitemau y mae modd eu hailgylchu yn cael eu cadw allan o safleoedd tirlenwi, gan adeiladu ar y momentwm sy wedi'i greu eisoes gan y Cyngor wrth wella'i record ailgylchu.

Yn ystod mis Mai 2017, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru fod mwy na 64% o wastraff Rhondda Cynon Taf wedi cael ei ailgylchu yn 2016 – y ganran uchaf erioed ers 12 mis yn Rhondda Cynon Taf. Golyga hyn fod gweithgarwch ailgylchu'r ardal yn uwch na'r cyfartaledd yng Nghymru. Bydd mentrau fel Y Sied yn cynorthwyo'r Cyngor i fwrw targed 70% Llywodraeth Cymru erbyn 2024-25.

Mae modd i'r Sied ailddefnyddio ac ailgylchu eich eitemau. Gwyliwch sut yr awn ni ati. 

V