Skip to main content

Awgrymiadau ar gyfer cael gwared â'ch gwastraff a'ch ailgylchu yn ystod COVID-19

Dyma gyngor ar sut i gael gwared ar eich gwastraff ac ailgylchu'n ddiogel er mwyn helpu i gyfyngu ar ledaeniad COVID-19
Recycling tips
recycling  runny-nose sanistise  chair social-distance

Ailgylchu

  • Mae bagiau ailgylchu ar gael i'w casglu o ystod o fannau dosbarthu. Mae'r rhain yn cynnwys nifer o siopau cornel a swyddfeydd post lleol - rhaid gwisgo masgiau/gorchuddion wyneb wrth gasglu bagiau - gwelwch restr lawn y mannau dosbarthu. Os dydych chi ddim yn gallu casglu'ch bagiau'n lleol, mae modd i chi archebu eich bagiau ar-lein
  • Peidiwch â rhoi eitemau fel cadachau (personol neu lanhau), menig, masgiau wyneb, ffedogau a hancesi papur yn eich bagiau ailgylchu. Does dim modd ailgylchu'r eitemau yma a rhaid eu rhoi yn eich bag gwastraff du.

Cael gwared ar eich Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)

  • Does dim modd ailgylchu eitemau PPE fel cadachau (personol neu lanhau), menig, masgiau wyneb, ffedogau a hancesi papur. Rhaid  eu rhoi yn eich gwastraff bagiau du.
  • Rhaid i'r eitemau yma gael eu rhoi mewn dau fag, a’u clymu cyn eu gwaredu.
  • Rhaid gadael yr eitemau hyn am 72 awr (3 diwrnod) cyn eu rhoi i'w casglu wrth ymyl y ffordd.

Golchwch eich biniau, cadis a'ch dwylo

  • Rhaid golchi biniau olwynion a chadis gwastraff (y biniau, y caeadau a'r handlenni) cyn ac ar ôl i'r bin gael ei wagio.
  • Rhaid golchi dwylo'n drylwyr ar ôl rhoi eich gwastraff mewn bag ac ar ôl rhoi eich gwastraff i'w gasglu wrth ymyl y ffordd.

Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned (Tipiau) a Chasgliad Eitemau Mawr 

Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned

  • Mae Canolfannau Ailgylchu (Tipiau) AR AGOR, 7 niwrnod yr wythnos: 8am-7.30pm gan gynnwys dros Ŵyl y Banc (Mawrth i Hydref) SYLWCH: Bydd hyn yn newid i 8am-5.30pm o ddydd Llun 26Hydref i ddydd Sul 28 Mawrth ac yna yn ôl i 8am-7.30pm o ddydd Llun 29Mawrth 2021.
  • Ddylech chi ddim ymweld ag unrhyw un o'r Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned os oes gyda chi neu rywun rydych chi'n byw gyda nhw symptomau COVID-19, megis tymheredd uchel, peswch newydd a pharhaus, neu’n methu arogli (anosmia).
  • Mae rheolau cadw pellter cymdeithasol llym ar waith ar draws yr holl Ganolfannau Ailgylchu yn y Gymuned - edrychwch ar y rheolau yma

Casglu Eitemau Mawr 

  • Mae modd gofyn i'r Cyngor i ddod i gasglu Gwastraff Mawr AR-LEIN yn unig ac ar hyn o bryd does dim modd gwneud hyn trwy'r ganolfan alwadau.
  • Lle bo modd, glanhewch eitemau cyn eu rhoi i'w casglu.

Cadw'ch pellter

Mae ein staff casglu yn gweithio'n galed i gadw'r gwasanaeth yma i redeg. Dilynwch y rheol 2 fetr pan fydd staff yn casglu'ch gwastraff.