Skip to main content

Bagiau ailgylchu

Bydd eich gwastraff ailgylchu yn cael ei gasglu ar  eich diwrnod casglu ailgylchu wythnosol.

Dylech chi roi eitemau i'w hailgylchu mewn bag ailgylchu clir - peidiwch â'u rhoi nhw yn yr un bag â'r gwastraff y cartref nad oes modd ei ailgylchu ac sy'n cael ei gasglu bob pythefnos. 

NODWCH: Peidiwch â rhoi gwastraff bagiau du mewn bagiau ailgylchu. Mae’n bosibl y bydd camddefnyddio bagiau ailgylchu yn arwain at gamau gorfodi, gan gynnwys dirwy o £100.

Does dim uchafswm o ran nifer y bagiau ailgylchu gallwch chi roi i'w casglu.

 

Sut i gael gwared ar wastraff os oes Coronafeirws arnoch chi

Os yw trigolyn yn dioddef o Coronafeirws, mae gofyn i chi gael gwared ar wastraff yn y ffordd isod:

  • Cofiwch: Dylech chi roi hancesi papur, papur cegin neu bapur tŷ bach rydych chi wedi'u defnyddio i chwythu'ch trwyn ac ati yn eich BAGIAU DU yn unig.
  • Rhowch hancesi papur wedi'u defnyddio a chlytiau glanhau mae modd eu taflu mewn bag(iau) du. Yna, rhowch y bag mewn ail fag, ei glymu'n ddiogel a'i gadw ar wahân i wastraff arall. Arhoswch am 72 awr cyn ei roi yn eich bin tu fas/allan i'w gasglu.
  • PEIDIWCH â rhoi'r eitemau yma yn eich bagiau ailgylchu gan nad oes modd eu hailgylchu, a gallai hyn peryglu gweithwyr y Cyngor a’u gwneud nhw’n fwy agored i ddal y firws.

Canllawiau clir am yr hyn y mae modd ei ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf.

Beth alla i ailgylchu?


Roedd y Cyngor wedi ailgylchu 64% o'i holl wastraff yn 2016/17. Fodd bynnag, er mwyn osgoi dirwyon sylweddol, rhaid i ni ailgylchu 70% o wastraff erbyn 2024/25 - dyma'r targed sydd wedi'i osod gan Lywodraeth Cymru.

Er mwyn cynyddu cyfraddau ailgylchu, mae cyfyngiadau ar nifer y bagiau du/biniau y mae modd eu rhoi allan bob pythefnos sef 2 fag du safonol ar gyfer casgliadau bagiau ac un bin ar olwynion ar gyfer casgliadau biniau (RHAID i'r bin gau) - edrychwch ar fanylion y cyfyngiadau ar fagiau du/biniau

Dyma restr o eitemau poblogaidd y mae modd eu hailgylchu:

 

View what can and can't be placed in your clear recycling bags.

Oes, mae modd eu hailgylchu

Nac oes, does dim modd eu hailgylchu

Bagiau ailgylchu clir - PAPUR YN UNIG

Papurau newydd, cylchgronau, papur swyddfa, bocsys grawnfwyd, cardfwrdd, post sothach, llyfrau rhifau ffôn ac amlenni.

*Rhowch garpion papur mewn bag clir ar wahân.

*Gwnewch gardfwrdd yn wastad.

Darnau bach o bapur neu hancesi. Caiff pob darn o bapur ei gasglu fesul darn.

Bagiau ailgylchu clir - CYMYSG

Tuniau, caniau, ffoil, jariau, poteli plastig, tybiau, potiau iogwrt, carton sydd wedi'i orchuddio â chwyr, caniau erosol, deunydd pacio polystyren (nid deunydd pacio bwyd).

*Tynnwch y caead, golchi a gwasgu'r eitemau.

Deunydd ceramig, gwydr sydd wedi torri, haenen lynu, pacedi creision, hambyrddau cig polystyren a chyllyll. Rhowch bob darn o bapur mewn bag ar wahân.

 

Nodwch: Rhaid lapio eitemau miniog gan ddefnyddio papur newydd neu focs grawnfwyd er enghraifft. Rhowch yr eitem wedi'i lapio mewn bag du ar gyfer eich casgliad pythefnosol.  Rhowch nodyn ar y bin er mwyn rhoi gwybod i'r garfan casglu bod yna eitem finiog yn y bin fel bod modd i'r gweithwyr fod yn ofalus iawn. 

  • Golchwch ganiau, poteli, jariau gwydr a chynwysyddion plastig, a’u rhoi nhw yn y bag gyda’i gilydd.
  • Rhowch gynhwysyddion papur a chardfwrdd sydd wedi cynnwys bwydydd, e.e. bocsys pizza, cacennau hufen, papur sglodion ac ati yn eich bag gwastraff bwyd
  • Gofalwch eich bod chi'n defnyddio'r bag/cynhwysydd ailgylchu cywir ar gyfer eich eitemau/gwastraff y mae modd eu hailgylchu.

Gwastraff sydd wedi'i lygru

Yn ôl amcangyfrifon, mae 20% o wastraff y cartref y mae modd ei ailgylchu wedi'i lygru gan nad yw preswylwyr yn dilyn y cyfarwyddiadau uchod. Mae hyn yn golygu bod y bagiau ailgylchu yn cynnwys eitemau nad oes modd eu hailgylchu neu fod y bagiau yn cynnwys eitemau y mae modd eu hailgylchu ac sydd wedi cael eu baeddu gan fwyd neu ddifwynwyr eraill. Oherwydd hynny, bydd rhaid cael gwared â nhw yn eich bag du ar gyfer gwastraff cyffredinol.

I sicrhau ein bod ni'n ailgylchu cymaint ag y gallwn ni, mae'r Cyngor erbyn hyn yn fwy llym ar breswylwyr, ac yn gofyn iddyn nhw reoli'u gwastraff a'u deunydd ailgylchu mewn modd cyfrifol

Os yw'r staff casglu yn gweld bag ailgylchu sy'n cynnwys deunydd nad oes modd ei ailgylchu, fyddan nhw ddim yn ei gasglu! Yn lle gwneud hynny, byddan nhw'n rhoi sticer wedi'i lygru ar y bag.
Its-Contaminated

Bydd angen i chi ddidoli cynnwys y bag,cael gwared ar yr eitemau anaddas a'i roi e allan i gael ei gasglu yr wythnos ganlynol.